Mae AC Arfon Siân Gwenllian yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddiogelu cyllid y gwasanaeth Cefnogi Pobl er mwyn parhau i gefnogi pobol bregus yn Arfon.
Bu'r Aelod Cynulliad yn trafod y pryderon efo nifer o gyrff yn Arfon gan gynnwys Gisda a Chartrefi Cymunedol Gwynedd. Clywodd am eu pryderon am unrhyw doriadau ddaw yn sgil y gyllideb mae Llywodraeth Cymru yn ei hystyried ar hyn o bryd.
Meddai Siân Gwenllian:
‘Mae’r Rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru’n helpu tua 60,000 o’r bobl. Mae’r arian yn mynd tuag at wasanaethau cymorth ym maes tai, yn cynnwys hosteli i’r digartref, llochesi i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig, prosiectau llety â chymorth, a chymorth yn ôl yr angen i bobl yn eu cartrefi eu hunain.'
Dywedodd Siân Tomos, Prif Weithredwr Gisda
'Roeddem yn falch o'r cyfle i gael trafod ein pryderon efo Siân Gwenllian. Gwyddom fod ganddi ddealltwriaeth lawn o'r maes, fel cyn aelod o Fwrdd Gisda.
'Mae’r bobl fregus sydd yn elwa o’r rhaglen hon yn cynnwys pobl hŷn, pobl ifanc fregus, rhai sy’n gadael gofal, teuluoedd sy’n ffoi rhag cam-drin domestig, pobl â ganddynt broblemau iechyd meddwl, pobl a chanddynt anawsterau dysgu, pobl a ganddynt broblemau gyda chamddefnyddio sylweddau, ac eraill.'
Medd Siân Gwenllian, ‘Mae Plaid Cymru yn ceisio dylanwadu ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd torri ar grantiau Cefnogi Pobl yn y gyllideb. Rwyf yn ymwybodol iawn o’r gwaith da sydd yn digwydd yn Arfon yn sgil y grantiau yma gan fod i mewn cysylltiad cyson efo cyrff fel GISDA a fyddai’n methu cynnig y gwasanaethau niferus sydd ar gael ganddyn nhw heb yr arian yma.
‘Yn fy etholaeth i mae gan Gartrefi Cymunedol Gwynedd dri chontract Cefnogi Pobl sydd yn talu am 14 swydd, a’r bobl rheiny’n gweithio fel wardeiniaid cysgodol sydd yn galluogi i bobol oedrannus fwy yn annibynnol am gyfnod hirach, ac fel swyddogion cefnogi tenantiaid sydd yn golygu bod tenantiaid bregus yn cael cymorth gyda byw yn annibynnol a chael offer sylfaenol i’w cartrefi.’
Mae’r gwasanaethau yma yn lleihau’r gost i wasanaethau cyhoeddus eraill gan gynnwys Iechyd, Gofal Cymdeithasol, a Gwasanaeth Digartrefedd.Mae ymchwil yn dangos fod pob £1 sydd wedi ei fuddsoddi trwy’r cynllun Cefnogi Pobl werth £2.30 i wasanaethau eraill fel lleihau galw am wasanaethau brys a’r meddygfeydd lleol, osgoi’r angen am ofal drwy roi cefnogaeth lefel isel, osgoi’r angen am ddarparu gofal preswyl, a chefnogi rhieni a theuluoedd i leihau risgiau diogelu, a lleihau pwysau ar wasanaethau plant. Ac, wrth gwrs, yn osgoi digartrefedd.
Mewn astudiaeth ddiweddar o ddynes oedrannus yn byw yn un o’n fflatiau yng Nghaernarfon, dangoswyd fod Gwerth Cymdeithasol drwy’r cynllun, o wariant gymharol fechan o £1500 o’r gronfa Cefnogi Pobl, yn rhoi budd cymdeithasol cyfystyr â £36,000 drwy wella iechyd cyffredinol a rhoi teimlad o reolaeth dros ei bywyd.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ystod o wasanaethau Cefnogi Pobl wedi wynebu toriadau, ac mae darparwyr gwasanaeth wedi gweithio’n galed i gyflawni cynifer o arbedion effeithlonrwydd ag y bo modd. Bydd toriadau pellach yn golygu bod llai o bobl fregus yn gallu cael mynediad at lety â chymorth a gwasanaethau cymorth yn ôl y galw, er gwaethaf y cynnydd yn y galw a natur gymhleth yr anghenion cymorth.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter