Cafodd Sian Gwenllian ei gwahodd i siarad mewn dathliadau Diwali – gwyl y goleuni – gan Gymdeithas Cyfeillion Indiaidd Bangor, ac fe siaradodd am yr angen i gymryd ysbrydoliaeth o’r wyl, ac am yr angen am oleuni yn ystod y dyddiau gwleidyddol-dywyll sydd ohoni.
“Mae nifer o gymunedau dan bwysau cynyddol oherwydd yr hinsawdd wleidyddol bresennol,” meddai Sian Gwenllian, “ac mae’n bwysig iawn ein bod yn dod at ein gilydd i weithio tuag at well dyfodol i bawb. Roeddwn i’n teimlo’n freintiedig iawn yn cael y cyfle i siarad mewn dathliad mor arbennig, ac i gyfarfod y teuluoedd a oedd yno’n mwynhau. Roedd y bwyd yn arddechog ac mi ddois o’r dathliadau wedi fy ysbrydoli gan y croeso cynnes a symboliaeth yr wyl.”
Roedd y dathliadau yn cynnwys dawnsio traddodiadol, cynnau cannwyllau a disgo i’r plant, ac fe weiniwyd cinio tri chwrs arbennig iawn o fwyd traddodiadol Indiaidd.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter