Dyma ddiweddariad ar y dos atgyfnerthu brechlyn Covid-19 gan swyddfa Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS;
Rydym yn deall, yn unol â chyngor gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), fod y bwrdd iechyd lleol yn cynnig brechiadau atgyfnerthu Covid-19 i'r grwpiau canlynol o bobl, os yw o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos:
- Y rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl ar gyfer oedolion hŷn;
- Pob oedolyn dros 50 oed;
- Gweithwyr rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol;
- Pawb rhwng 16 a 49 oed gyda chyflwr iechyd isorweddol sy’n eu rhoi mewn risg uwch o Covid-19 difrifol (fel yr amlinellir yn y Llyfr Gwyrdd), a gofalwyr oedolion; ac
- Oedolion sydd â chysylltiad ag unigolion â system imiwnedd gwan.
Y bwlch o chwe mis rhwng yr ail ddos a'r pigiad atgyfnerthu yw'r argymhelliad cyfredol gan y JCVI, grŵp ledled y DU sy'n cynghori adrannau iechyd y DU ar y rhaglen frechu.
Nid oes angen cysylltu â'ch meddyg teulu na chanolfan frechu i drefnu apwyntiad - cysylltir â chi'n uniongyrchol trwy lythyr neu neges destun/galwad ffôn.
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu a gwiriwch fod unrhyw ohebiaeth a dderbynnir yn dod o ffynhonnell ddilys. Ni ofynnir i chi dalu am y brechlyn nac am unrhyw fanylion ariannol pan drefnir eich apwyntiad.
Mae mwy o fanylion ar gael yn fan hyn:
https://bipbc.gig.cymru/covid-19/brechlyn-covid-19/gwybodaeth-dos-atgyfnerthu-brechlyn-covid-19/
Dim ond os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad erbyn chwe mis ac wythnos ers eich ail frechiad Covid-19 y dylech ffonio 03000 840004 i ofyn am apwyntiad.
Rydym yn deall na fydd yn arferol i roi pigiad ffliw a’r brechiad atgyfnerthu Covid-19 ar yr un pryd, ond gall fod nifer fach o achosion lle mae amseru a logisteg yn caniatáu i'r bwrdd iechyd lleol wneud hyn. Yn ôl cyngor Llywodraeth y DU, mae'n ddiogel cael y ddau ar yr un pryd. Os oes gennych unrhyw bryderon am y brechiad ffliw a’r brechiad atgyfnerthu Covid-19, trafodwch y rhain gyda'ch meddyg teulu.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter