Yn ddiweddar, bu ysgolion drwy Gymru a thu hwnt yn cynnal ‘diwrnod gwyrdd’ i ddangos eu cefnogaeth i goedwigoedd glaw y byd. Mae’r ‘Diwrnod Gwyrdd’ yn ddiwrnod blynyddol o weithgaredd gwyrdd a drefnir gan yr elusen newid hinsawdd, Maint Cymru.
Er mwyn dangos ei chefnogaeth hithau i’r achos bwysig hon fe aeth AC Arfon Sian Gwenllian draw i Ysgol Llanrug i ymuno yn eu gweithgareddau nhw ac i glywed gan y disgyblion pam bod yr achlysur yn un mor bwysig.
“Roedd hi’n wych cael mynd draw i Lanrug at y plant,” meddai Sian Gwenllian, “roedd y Cyngor Ysgol wedi bod wrthi’n brysur yn creu stondinau o bob math i hyrwyddo’r achos gan gynnal cystadleuaethau enwi’r mwnci a chreu cacennau bach.
“Roedd pawb o bob dosbarth wedi gwisgo mewn gwyrdd i ddod i’r ysgol a chafwyd gwasanaeth a gweithdai gan Guto Dafydd sy’n gweithio i elusen Maint Cymru. Llwyddwyd i godi £475 tuag at yr achos – ymdrech wych gan Ysgol Llanrug.”
Ledled Cymru, roedd ysgolion, swyddfeydd a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan, gan helpu i ledaenu ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a chodi arian i brosiectau coedwigoedd Maint Cymru ar draws Affrica a De America.
Roedd pob punt a godwyd yn cael ei danfon ar ei hunion i’r prosiectau sy’n cwmpasu ardal o goedwig drofannol ddwywaith maint Cymru, ond ddim cyn i’r swm gael ei ddyblu gan eu cronfa gyfatebol.
Mae coedwigoedd yn allweddol ar gyfer achub y byd rhag effeithiau newid hinsawdd drwy amsugno’r carbon deuocsid yr ydym yn ei allyrru. Er gwaethaf hyn, caiff i fyny at 12 miliwn hectar o goedwigoedd trofannol eu distrywio bob blwyddyn! Mae cymaint â 25% o allyriadau carbon yn fyd-eang yn cael ei achosi drwy ddistrywio coedwigoedd trofannol; mae hyn yn uwch na’r carbon a allyrrir gan drafnidiaeth y byd i gyd gyda’i gilydd.
Mewn blynyddoedd blaenorol, gwelodd ymdrechion codi arian bobl yn rhoi’r gorau i’w ceir a beicio i’r gwaith neu i’r ysgol, yn gwerthu bwyd wedi ei bobi, yn cynnal picnic cwbl wyrdd neu’n gwisgo o’u pennau i’w traed mewn gwyrdd am y dydd.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter