Mae Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched drwy ddathlu’r posibilrwydd y bydd y sir yn cael ei chynrychioli gan dair menyw ar ôl Etholiad Cyffredinol 2024.
Roedd y digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yn gwahodd cynghorwyr sir a thref lleol, swyddogion y blaid a chynrychiolwyr etholedig at ei gilydd i ddathlu’r tîm cryf o ferched Plaid Cymru sydd “erioed wedi bod mor gryf.”
Roedd y digwyddiad yn gyfle i ferched ar bob lefel o’r blaid rwydweithio ac i gael diweddariad gan gynrychiolydd yr ardal yn Senedd Cymru, Siân Gwenllian, AS Dwyfor Meirionnydd Liz-Saville Roberts, ac ymgeisydd Plaid Cymru dros Fangor Aberconwy, Catrin Wager. Mae’r trefnwyr yn honni i’r digwyddiad gael ei gynnal i “edrych ymlaen” at y posibilrwydd y bydd y sir yn cael ei chynrychioli gan dair merch yn San Steffan a’r Senedd, ac i ddysgu am y gwaith sy’n cael ei wneud gan Siân Gwenllian a Liz Saville Roberts dros gydraddoldeb rhywedd.
Agorwyd y digwyddiad gan Liz Saville Roberts, sy’n gobeithio cynrychioli tref Caernarfon fel rhan o etholaeth newydd Dwyfor Meirionnydd ar ôl Etholiad Cyffredinol 2024. Liz Saville Roberts oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli Dwyfor Meirionnydd pan gafodd ei hethol dros y sedd yn ei ffurf bresennol yn 2015. Hi hefyd oedd AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru. Yr wythnos hon ymddangosodd ar restr Women in Wesminster – The 100 sy’n dathlu menywod sydd ar flaen y gad ym myd gwleidyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Aelodau Seneddol, newyddiadurwyr, gweision sifil a thu hwnt.
Yn ôl Liz:
“Ddegawd yn ôl, doedd Dwyfor Meirionnydd erioed wedi cael cynrychiolydd benywaidd yn San Steffan, nac Arfon yn y Senedd chwaith. Ond mae Siân a minnau wedi herio’r hen drefn honno.
“Hefyd, yn etholiadau Cyngor Gwynedd yn 2022, bu cynnydd o 16% yng nghanran cynghorwyr Plaid Cymru oedd yn ferched.
“’Dyw’r grŵp erioed wedi bod mor gryf.
“Ond mae llawer o waith i’w wneud eto o ran cydraddoldeb, a siaradais yn y digwyddiad heddiw am fy ngwaith yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y system Cyfiawnder Troseddol.
“Fe wnes i hefyd drafod fy ngwaith yn lleol yn cefnogi Rhianon Bragg. Mae ei hachos yn enghraifft berffaith o’r diffygion yn y system.”
Mae Catrin Wager yn sefyll i fod yn AS Plaid Cymru dros Fangor Aberconwy yn Etholiad Cyffredinol 2024, ac os y bydd yn llwyddiannus, byddai’n ymuno â Liz a Siân i gynrychioli Gwynedd. Mae rhannau mwyaf gogleddol y sir, Bangor a Dyffryn Ogwen yn rhan o’r sedd newydd honno. Mae'n gyn-gynghorydd ar Gyngor Gwynedd yn cynrychioli Bangor Uchaf, a bu’n Aelod Cabinet hefyd.
Yn ôl Catrin:
“Fel grŵp Plaid Cymru fe weithion ni’n galed i annog mwy o ferched i sefyll yn etholiadau 2022, a dwi mor falch bod y gwaith hwnnw wedi arwain at nifer y cynghorwyr benywaidd ar Gyngor Gwynedd yn codi o ychydig dros 20% i dros 40%.
“Mae yna dipyn o ffordd i fynd eto i wneud llywodraeth leol yn fwy cyfartal; mae’r ffaith nad yw cynghorwyr benywaidd sy’n cael plant tra yn y swydd yn cymryd absenoldeb mamolaeth er enghraifft, yn dangos cymaint y mae’n rhaid i bethau newid o hyd.
“Ond mae’n rhaid i ni hefyd barhau i frwydro i wneud y byd gwleidyddol yn fwy cynrychioliadol mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, mae'n frawychus bod 1 rhan o 5 o'r boblogaeth oedran gweithio yn y DU yn nodi bod ganddyn nhw anabledd, ac eto o’r 650 o ASau yn San Steffan dim ond 8 sydd wedi datgan bod ganddyn nhw anabledd.
“Mae angen i hyn newid. A heddiw dwi’n annog pawb i gydnabod nid yn unig yr angen i glywed mwy o leisiau merched mewn gwleidyddiaeth, ond lleisiau menywod ag ystod o brofiadau bywyd. Dim ond wedyn y medrwn ddechrau adeiladu dyfodol tecach a chyfartal i bawb."
Daethpwyd â’r digwyddiad i ben gan Siân Gwenllian, y cynrychiolydd lleol yn y Senedd. Pan gafodd ei hethol yn 2016, hi oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli Arfon yn y Senedd.
Yn ôl Siân:
“Ro’n i’n falch o’r cyfle i drafod gwaith pwysig sy’n cael ei wneud i hybu cydraddoldeb rhywedd fel rhan o Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.
“Dwi’n hynod falch y bydd Bil yn cael ei drafod yn y Senedd yr wythnos nesaf a fyddai’n sicrhau cydbwysedd gyda mecanwaith penodol, yn hytrach na dibynnu ar ewyllys da. Byddai hyn yn golygu y byddai o leiaf 50% o ASau yn ferched.
“Yn 2003, Cynulliad Cymru oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd â chanddo nifer cyfartal o ddynion a merched yn aelodau. Roedd y ffaith honno’n cael ei dathlu’n rhyngwladol.
“Ond rydan ni wedi mynd am yn ôl ers hynny, sy’n dangos na fedrwn ddisgwyl i gydbwysedd ddigwydd yn organig.
“Ia, sicrhau amrywiaeth o leisiau mewn seneddau ydi’r peth moesol i’w wneud; ond mae hefyd yn arwain at lywodraethu mwy effeithiol.
“Ac felly, rwy’n edrych ymlaen at weld Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn gwneud ei hynt drwy Senedd Cymru. A pha gwell amser i ddathlu nag ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched?”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter