Hywel yn ymuno mewn rali tu allan i'r Senedd i leisio gwrthwynebiad i doriadau anabledd.
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o erlyn y rhai sydd lleiaf abl i amddiffyn eu hunain, gan fod disgwyl i’r Canghellor roi sêl bendith i doriadau pellach i fudd-daliadau pobl anabl.
Wrth annerch rali tu allan i'r Senedd, rhybuddiodd Hywel Williams na fydd pobl sydd ag amrywiaeth o gyflyrau sy'n ei gwneud yn anodd iddynt adael y tŷ neu i wneud teithiau newydd ac anghyfarwydd oherwydd pryder, yn sgorio digon o bwyntiau i gael cyfradd uwch yr elfen symudedd o PIP. O ganlyniad, gallent fod yn gymdeithasol ynysig, methu ymweld â theulu a ffrindiau neu fynd i’r gwaith.
Mae’r AS Plaid Cymru hefyd wedi cefnogi cynnig trawsbleidiol yn y Senedd (EDM 985) yn galw ar y Llywodraeth i ddiddymu'r y diwygiadau arfaethedig ar unwaith.
Mae disgwyl i Weinidogion newid rheolau PIP er gwaethaf dau ddyfarniad tribiwnlys y dylent gael eu hymestyn i gynnwys cyflyrau a ddioddefir gan 160,000 o bobl megis awtistiaeth, pyliau o banig ac anhwylderau gorbryder.
Dywedodd Hywel Wiliams AS,
“Dyma ymgais sinicaidd gan y llywodraeth Dorïaidd i symud y pyst gôl a fydd yn gadael miloedd o bobl anabl yn waeth eu byd. Mae nhw wedi dewis anwybyddu beirniadaeth gadarn y llysoedd, gan danseilio sail gyfreithiol y dyfarniadau.”
“O fy mhrofiad â gwaith achos, mae’r broses asesu yn amlwg yn gwbl anaddas a rhaid ei ddiwygio ar fyrder fel ei bod yn adlewyrchu'r costau ychwanegol sy'n wynebu pobl anabl.”
“Mae'r ffaith fod cymaint o benderfyniadau yn cael eu gwrthdroi ar apêl yn dweud cyfrolau am annigonolrwydd y broses asesu gychwynnol, yn ogystal â'r creulondeb o orfodi pobl anabl i ymestyn ymhellach ystyriaethau cyn eu bod yn derbyn y budd-dal sydd ei hangen arnynt ac y mae ganddynt hawl iddo.”
“Bydd hefyd yn tanseilio ymrwymiad y llywodraeth i drin iechyd meddwl a chorfforol yn gyfartal.”
“Mae'n peryglu atal miloedd o bobl anabl rhag cael mynediad i'r cymorth ariannol sydd ei angen arnynt i fynd i apwyntiadau swyddi, ymweliadau iechyd neu yn syml, cyflawni arferion beunyddiol syml; pethau sy'n anochel yn eu helpu gyda adferiad.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter