“Rhaid cofio am ogledd orllewin Cymru wrth ddiwygio’r rhwydwaith bysus”

Mae Sian Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wella gwasanaethau bysus yn Arfon fel rhan o ddiwygiadau sydd i’w trafod yn y Senedd y flwyddyn nesaf.

 

Bydd y ddeddfwriaeth newydd, os caiff ei phasio, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu darparu, drwy fodel masnachfraint.

 

Bydd hyn yn golygu y bydd penderfyniadau am wasanaethau bysiau yng Nghymru, gan gynnwys llwybrau, amserlenni a phrisiau, yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd masnachfreinio yn creu rhwydwaith sy’n gwasanaethu’r cyhoedd yn well ac yn cysylltu â'r rhwydwaith rheilffyrdd.

 

Yn ôl Siân:

 

“Mae gwaith ymchwil wedi’i wneud ymhlith pobl ifanc ym Methesda yn fy etholaeth i, dan faner prosiect o’r enw Dychmygu’r Dyfodol. Un dyhead clir sydd wedi dod allan o’r gwaith yna, oedd yn cael ei fynegi’n glir iawn, ydy’r dyhead am wasanaeth bws rheolaidd, yn cysylltu rhannau o Ddyffryn Ogwen â’i gilydd, ac â gweddill Arfon a thu hwnt.

 

“Mae gwaith ymchwil wedi’i wneud Mae’n hollbwysig bod anghenion pobl ifanc mewn dyffrynnoedd ôl-ddiwydiannol, fel Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle, yn cael sylw dyladwy wrth ddyfeisio’r model ar gyfer y gwasanaethau bysiau.

 

“Dwi yn nodi mai cyd-bwyllgor corfforedig y gogledd, y CJC, fydd yn gyrru’r newid ar gyfer 2028 yn y gogledd, a bydd angen gweithio efo rhanbarthau dinesig Lerpwl a Manceinion i ddyfeisio’r rhwydwaith yn y gogledd.

 

"Fy nghwestiwn i ydy: sut mae’r Llywodraeth yn mynd i wneud yn siŵr bod ardaloedd y gogledd-orllewin—ardaloedd tlawd, ardaloedd sydd yn bell o hybiau poblogaeth—yn mynd i gael eu hystyried yn deg wrth ichi ddyfeisio’r cynllun newydd yma?

 

“Mae ymchwil gan Sefydliad Bevan yn Arfon yn dangos bod diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn cael effaith uniongyrchol ar dlodi mewn pob math o wahanol ffyrdd – o leihau gallu pobl i weithio i broblemau wrth fynd i siopa, apwyntiadau meddygol neu weithgareddau cymdeithasol.

 

“Yn y cyfrifiad diwethaf, dim ond 853 o bobl oedd yn cymudo i’r gwaith ar fws yn Arfon tra bod dros 15,000 o bobl yn gyrru i’r gwaith.

 

"Wrth greu'r model newydd - a dwi'n ei gefnogi mewn egwyddor - mae'n rhaid i anghenion rhai o gymunedau tlotaf y Gogledd Orllewin fod yn ganolog i'r meini prawf. Mae hyn yn cynnwys cymunedau ôl-ddiwydiannol a gwledig a chymunedau ymhell o'r hybiau poblogaeth."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2024-12-23 10:30:25 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd