Nod y prosiect yn Nyffryn Ogwen yw mynd i'r afael â heriau megis tlodi trafnidiaeth ac unigrwydd
Mae’r Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon wedi ymateb i agoriad swyddogol menter Dyffryn Gwyrdd yn Nyffryn Ogwen.
Agorwyd hwb y prosiect ar Stryd Fawr, Bethesda yn swyddogol gan yr Aelod o’r Senedd a Hywel Williams AS.
Bydd yr hwb yn ganolfan wybodaeth i’r fenter wrth iddi anelu i fynd i'r afael â materion sy'n wynebu'r gymuned leol, megis tlodi trafnidiaeth, sbwriel ac unigrwydd gwledig.
Dyffryn Gwyrdd yw prosiect diweddaraf Partneriaeth Ogwen. Sefydlwyd y bartneriaeth yn 2013 gan dri chyngor cymuned gyda'r bwriad o weithio ar y cyd ar draws y dyffryn. Cefnogwyd prosiect Dyffryn Gwyrdd gan grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Un o flaenoriaethau Dyffryn Gwyrdd yw mynd i’r afael â’r hyn sy’n cael ei alw’n “dlodi trafnidiaeth gwledig”, mater sy’n effeithio ar y rhai na allant fforddio neu na allant gael mynediad at drafnidiaeth.Maent yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem trwy sefydlu cynllun trafnidiaeth gymunedol werdd, darparu cerbydau trydan a datblygu fflyd o feiciau trydan.
Maent hefyd yn gobeithio y bydd y cyfleoedd gwirfoddoli niferus sydd ar gael yn mynd i'r afael ag unigrwydd, yn darparu sgiliau i bobl leol, ac yn creu swyddi.
Gan weithio ochr yn ochr â Cyd Ynni a phrosiect newydd GwyrddNi, bydd y ganolfan yn darparu cyngor i bobl leol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Hyd yn hyn mae gwaith Dyffryn Gwyrdd wedi arwain at gael car trydan dan berchnogaeth y gymuned i’w ddefnyddio gan drigolion lleol, Beics Ogwen, gweithdy cymunedol sy’n atgyweirio beiciau ac yn rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar feiciau trydan, a phlannu gerddi cymunedol.
Mae'r car trydan wedi'i ddefnyddio fel rhan o'r Cynllun Cyfaill Cymunedol, i sicrhau bod 25 pryd ar glyd yn cael eu danfon bob wythnos.
Dywedodd Siân Gwenllian AS, a dorrodd y rhuban yn y ganolfan newydd;
“Mae Dyffryn Gwyrdd yn enghraifft o’r weledigaeth gynhwysfawr sydd ei hangen ar Gymru
“Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â llu o faterion sy’n wynebu’r gymuned leol, gan wneud hynny mewn ffordd gynaliadwy a gwyrdd sy’n fuddiol i’r gymuned.
“Mae’n dangos yr hyn sy’n bosibl pan fo cymuned yn dod ynghyd er budd pobol leol.
“Dim ond un enghraifft yn unig o waith clodwiw Partneriaeth Ogwen yw’r adnodd gwych hwn yng nghanol Bethesda.
“Mae cymunedau fel rhai Dyffryn Ogwen yn wynebu heriau mawr, ond fel y gwnaethant yn ystod y pandemig, mae’r cymunedau wedi dod ynghyd i sefydlu rhywbeth arbennig.
“Mae'n dda gweld y pwyslais ar weithredu o fewn cyd-destun ehangach yr argyfwng hinsawdd, boed hynny trwy'r ymdrechion i ddod yn gymuned ddi-blastig, casglu sbwriel, neu blannu 200 o goed derw.
“Roedd yn bleser agor y ganolfan ym Methesda yn swyddogol, ac edrychaf ymlaen at weld gwaith Dyffryn Gwyrdd yn mynd o nerth i nerth.”
Mae Huw Davies, rheolwr Dyffryn Gwyrdd wedi ymateb, gan ddiolch “i’r Loteri a’r holl gefnogwyr a phartneriaid eraill sydd wedi ein galluogi i ddarparu’r gwasanaeth newydd hwn.”
“Bydd yn ganolfan lle y gall pobol alw heibio am wybodaeth a chyngor am adnoddau a gwasanaethau – boed hynny i ddefnyddio ein cerbyd trydan ar gyfer mynychu apwyntiad ysbyty, dysgu sut i droi beic yn un trydan, neu i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli gwyrdd.”
Mae’r Cyngh. Paul Rowlinson yn cynrychioli rhan o ddyffryn Ogwen ar Gyngor Gwynedd a bu’n rhan o’r broses o sefydlu Dyffryn Gwyrdd.
“Mae'n wych gweld Swyddfa Dyffryn Gwyrdd yn agor yn swyddogol.
“Mae’r prosiect cyffrous hwn wedi’i sefydlu gyda’r nod o sefydlu cymuned wirioneddol wyrdd yn Dyffryn Ogwen.
“Bydd y prosiect yn dod â phobl ynghyd, yn darparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a dod o hyd i swyddi, yn helpu pobl i gynhesu eu cartrefi yn fwy effeithlon ac i dyfu mwy o fwyd.
“Mae'r staff ymroddedig wedi bod yn gweithio o gartref hyd yn hyn.
“Bydd y ganolfan gyfleus hon ar y Stryd Fawr yn gyfle i bawb alw heibio i weld y cyffro.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter