Yn dilyn cyhoeddi canllawiau newydd Llywodraeth Cymru mae nifer o fusnesau gosod unedau gwyliau wedi mynegi pryder y bydd llawer ohonynt yn methu cyrraedd gofynion y tri prawf. Yn ôl arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:
“Bydd Cyngor Gwynedd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod busnesau gosod gwirioneddol yn derbyn y taliad grant sydd yn ddyledus iddyn nhw o dan y Cynllun. Hoffwn bwysleisio mai canllawiau Llywodraeth Cymru yw’r rhain. Nid dyma’r geiriad a awgrymwyd gan Gyngor Gwynedd. Byddai ein geiriad ni wedi bod yn llawer rhwyddach i’w gweithredu, ond mae’n rhaid i ni bellach weithio o dan y canllawiau newydd sy’n gosod y tri phrawf penodol. Byddwn yn gwneud ein gorau glas o fewn y canllawiau i gefnogi busnesau go iawn yn ariannol.
“Roedd posibilrwydd y byddai hyd at £18miliwn o arian cyhoeddus yn mynd i gael ei dalu i berchnogion ail gartrefu oedd wedi trosi i Drethi Busnes er mwyn osgoi talu unrhyw dreth. Roedd hyn yn bryder sylweddol i bump o gynghorau ac yn wir i’r Gweinidog ei hun. Byddai wedi bod yn gamwedd i dalu’r arian yma i’r nifer fawr o unigolion ledled Cymru, oedd yn disgyn i’r categori yma.
“Bydd cryn waith wrth ddelio â’r canllawiau newydd a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru yr wythnos hon ac fe all olygu oedi wrth wneud taliadau. Yma yng Ngwynedd, rydym yn cryfhau ein tîm cyllid er mwyn sicrhau cyflymu taliadau i fusnesau bach y sir.
“Hoffwn gyfleu yn ddigamsyniol ein bod yn llwyr werthfawrogi pwysigrwydd y diwydiant lletygarwch (hospitality) i’r economi leol yng Ngwynedd. Ond nid yw’n dderbyniol i ni wneud taliadau sylweddol o’r pwrs cyhoeddus i rai sydd wedi defnyddio’r drefn wallus gan y Llywodraeth Lafur, i osgoi talu trethi.
Awgrymaf yn barchus y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r arian a arbedwyd i roi cymorth i’r llu o sefydliadau gwely a brecwast bychain sydd heb gael unrhyw gefnogaeth ariannol hyd yma. Mae’n sector arall sy’n dioddef yn aruthrol o ganlyniad i Covid-19.”
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter