Mae Plaid Cymru wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru "ailfeddwl" eu polisïau addysg uwch er mwyn diogelu sector addysg uwch Cymru yn sgil y newyddion bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gosod cap ar nifer y myfyrwyr o Loegr sy'n mynd i brifysgolion yng Nghymru.
Ddydd Gwener, daeth y newyddion bod llywodraeth y DU yn bwriadu rheoli niferoedd y myfyrwyr o Loegr sy'n dod i'r brifysgol yng Nghymru fel ymateb i'r coronafeirws.
Meddai Llefarydd Plaid Cymru ar gyfer addysg ôl-16, Helen Mary Jones AS – sy'n cymryd lle Bethan Sayed AS sydd ar absenoldeb mamolaeth – pe bai Llywodraeth San Steffan "o ddifrif" ynglŷn â gosod capiau ar fyfyrwyr o Loegr sy'n dod i Gymru, y gallai Llywodraeth Cymru hefyd roi'r gorau i'r model presennol sydd, meddai hi, "yn helpu bron i 40% o fyfyrwyr o Gymru i adael Cymru bob blwyddyn – y rhan fwyaf ohonynt i astudio yn Lloegr”.
Dywedodd Ms Jones, pe bai nifer y myfyrwyr o Loegr sy'n mynd i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn gostwng, y byddai'n "ergyd arall" na fyddai'r sector cyfan yn gallu ei fforddio.
Neithiwr, ysgrifennodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams at Weinidog y Deyrnas Unedig dros Brifysgolion i fynegi "pryder dwfn" ynghylch cynlluniau i gyhoeddi bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno rheolyddion dros dro ar niferoedd myfyrwyr fel ymateb i'r pandemig.
Meddai Helen Mary Jones, llefarydd Plaid Cymru ar gyfer addysg ôl-16:
"Os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif ynglŷn ag ystyried gosod capiau ar fyfyrwyr o Loegr sy'n dod i Gymru, siawns na all Llywodraeth Cymru gadw'r model presennol sy'n helpu bron i 40% o fyfyrwyr o Gymru i adael Cymru bob blwyddyn – y rhan fwyaf ohonynt i astudio yn Lloegr.
"Pe bai nifer y myfyrwyr o Loegr sy'n dod i sefydliadau addysg uwch Cymru yn gostwng, byddai'n ergyd arall na all yr holl sector ei fforddio ar hyn o bryd.
"Yn y tymor hir, mae angen trafodaeth ddifrifol ynghylch a allwn barhau i ariannu bron i 40% o fyfyrwyr Cymru i adael ein gwlad, bob blwyddyn. Ac os yw gweinidog addysg Lloegr yn gosod cap, bydd rhaid i Lywodraeth Cymru ailfeddwl eu polisïau, yn gyflym, er mwyn diogelu sector Addysg Uwch Cymru a helpu i gryfhau ein prifysgolion ar yr adeg hollbwysig hon".
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter