Mae Gweinidog Cysgodol dros Addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddu cyfarfodydd rhwng ysgolion ac Estyn er mwyn osgoi mwy o bwysau ar athrawon.
Mae Sian Gwenllian AS yn dweud y dylid sgrapio'r cyfarfodydd rhithiol rhwng ysgolion ac arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru am y tro.
Mae Ms Gwenllian wedi nodi bod y cyfarfodydd hyn wedi'u trefnu ar gyfer mis Hydref ymlaen, ond mae hi'n credu y byddai parhau â hwy ar hyn o bryd yn wrthgynhyrchiol, ac yn ychwanegu pwysau diangen at rôl athrawon.
Mae Estyn hefyd wedi nodi ar eu tudalen eu bod hefyd yn gobeithio ailddechrau cynnal ymweliadau wyneb yn wyneb yn nes ymlaen yn y tymor.
Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS,
"Mae gan athrawon ddigon ar eu platiau ar hyn o bryd gyda Covid – maent yn gwneud mwy na'u dyletswydd i wneud yn siŵr bod addysg ar gael i blant a phobl ifanc, ac yn peri risg iddynt eu hunain yn y broses.
"Nid yw ychwanegu pwysau diangen yn gynhyrchiol, ac ni fydd o fudd i ddisgyblion nac i athrawon.
"Mae ysgolion yn gwneud eu gorau yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan ddarparu addysg a chefnogaeth i ddisgyblion er gwaethaf nifer o rwystrau, a dylid cadw'r prif ffocws ar gynorthwyo athrawon i barhau i hwyluso hyn.
"Rwyf wedi clywed gan benaethiaid sydd eisoes wedi'u gorlethu gan yr heriau a'r baich gwaith ychwanegol sydd wedi'u hachosi gan Covid; maent yn diweddaru asesiadau risg yn gyson, yn sicrhau bod pobl yn cadw pellter cymdeithasol, yn ceisio dilyn canllawiau sy'n newid o hyd, a llawer mwy, ac yn gwneud hyn yng nghyd-destun pum mlynedd o doriadau i gyllidebau ysgolion.
"Oni bai bod ysgolion yn penderfynu bod cyfarfodydd ag Estyn yn angenrheidiol neu'n fuddiol, dylid eu gohirio nes bod pawb yn gytûn."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter