Mae’r cais i dderbyn statws Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer ardaloedd chwarelyddol Gwynedd wedi cyrraedd y cam olaf yr wythnos ddiwethaf
Mae gwleidyddion Plaid Cymru yn Arfon wedi honni bod cyrraedd y cam olaf yn “hwb i falchder lleol.”
Pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai ardal ôl-chwarelyddol Arfon yn cael ei chynnwys yn un o bum Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru.
Ymhlith y safleoedd presennol mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Traphont Ddŵr Pontcysyllte ger Llangollen, a Chestyll y Brenin Edward yng Nghaernarfon, Biwmares, Harlech a Chonwy.
Ymatebodd Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn y Senedd ac sy’n Weinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg;
“Dwi’n falch iawn o glywed y newyddion y bydd Icomos (Cyngor Rhyngwladol Henebion a Safleoedd) yn argymell bod Pwyllgor Treftadaeth y Byd yn cymeradwyo'r cais.
“Fel nifer o’m hetholwyr, mae gen i gysylltiad uniongyrchol â'n gorffennol diwydiannol gan fod fy hen daid yn chwarelwr yn Chwarel y Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle.
“Rwy’n gwybod yn iawn cymaint o ergyd i ardal Arfon oedd colli’r diwydiant chwarelyddol.
“Mae gwaddol economaidd yr oes honno yn parhau i daflu cysgod dros yr ardal.
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad diweddar hwn felly, ac rwy’n gobeithio y byddai dod yn Safle Treftadaeth y Byd yn adfywio’r ardaloedd ôl-chwarelyddol tra’n amddiffyn ein treftadaeth leol gyfoethog.
Mae Hywel Williams AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn senedd San Steffan wedi dweud fod y cyhoeddiad yn “hwb i falchder lleol.”
“Gwn fod y cyhoeddiad hwn yn dod wedi blynyddoedd o waith caled.
“Mae’n ein hatgoffa o orffennol cyfoethog Arfon, a’i gyfraniad aruthrol i’r byd.
“Ar un adeg roedd chwareli llechi Arfon yn ganolbwynt diwydiannol i’r byd.
“Mae'n wych gweld y cyfraniad hwnnw'n cael ei gydnabod.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter