Mae’r car trydan yn rhan o fenter gyffrous Dyffryn Gwyrdd
‘E-Fan’ yw’r enw sydd wedi ei roi ar gar trydan newydd Dyffryn Ogwen, sy’n rhan o brosiect Dyffryn Gwyrdd yr ardal.
Mae’r enw newydd yn chwarae ar yr enw Cymraeg ‘Efan’, yn ogystal â chyfeirio at rinweddau eco-gyfeillgar y car trydan newydd.
Cyhoeddwyd yr enw mewn seremoni arbennig yn Llys Dafydd, a fynychwyd gan gynrychiolwyr o fenter Dyffryn Gwyrdd, disgyblion yr ysgol, yn ogystal â Siân Gwenllian AS, cynrychiolydd yr ardal yn Senedd Cymru.
Sefydlwyd Dyffryn Gwyrdd gyda’r bwriad o fynd i'r afael â materion cymunedol sy’n effeithio ar Ddyffryn Ogwen, yn cynnwys yr argyfwng hinsawdd, unigrwydd, a thlodi tanwydd.
Ond mae gobaith y bydd y car trydan newydd sy’n rhan o’r prosiect yn mynd i’r afael â her benodol iawn sy’n effeithio ar yr ardal, sef tlodi trafnidiaeth wledig.
Bydd y car trydan yn un cymunedol (e.e. bydd modd ei ddefnyddio i fynychu apwyntiadau ysbyty) yn ogystal â sicrhau bod 25 pryd ar glyd yn cael eu danfon yn wythnosol.
Aeth Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli’r ardal yn Senedd Cymru yn ogystal â bod yn llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, draw i seremoni enwi’r car.
Dywedodd;
“Roeddwn yn falch o gael bod yn bresennol yn agoriad swyddogol hwb y Dyffryn Gwyrdd ar Stryd Fawr Bethesda rai wythnosau’n ôl, ac mae’n braf gweld gwaith arloesol y prosiect yn dwyn ffrwyth.
“Mae ’na ysbryd cydweithredol, cymunedol cryf yn Nyffryn Ogwen, ac mae ’na fentrau, prosiectau, a chyfleoedd gwrifoddoli yn egino ar draws y dyffryn o hyd.
“Mae’n braf gweld yr ysbryd o undod a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig yn parhau y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.
“Mae’n arbennig o galonogol gweld pwyslais prosiectau fel y car trydan ar gynaliadwyedd, yn enwedig o ystyried yr her ddigynsail sy’n ein hwynebu ar ffurf newid hinsawdd.
“Yn fwy na dim, roedd yn hyfryd gweld brwdfrydedd pobol ifanc y dyffryn.”
Mae Dyffryn Gwyrdd yn brosiect gwyrdd gan Bartneriaeth Ogwen. Menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen yw Partneriaeth Ogwen.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter