Dywed Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams nad yw’r dicter cyhoeddus tuag at Dominic Cummings a’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi diflanu, er gwaethaf ymdrechion y llywodraeth i gladdu’r stori.
Dywedodd Mr Williams fod ei ebost yn parhau i fod yn llawn negeseuon gan etholwyr, yn gandryll gyda ymddygiad Mr Cummings ac anghyfrifoldeb y Prif Weinidog wrth ei amddiffyn.
Yn ôl Mr Williams, mae mwyafrif yr ebyst gan etholwyr sy'n ysgrifennu ato am y tro cyntaf i fynegi eu ffieidd-dra, gyda llawer yn adrodd manylion personol iawn am yr aberth maent wedi ei gwneud i gadw at y gyfraith.
Hyd yma, nid yw Mr Williams wedi derbyn yr un e-bost yn amddiffyn Mr Cummings a Mr Johnson.
Dywedodd Hywel Williams AS,
'Mae'n wythnos bellach ers i Mr Cummings ffugio-gyfiawnhau ei ddiystyriaeth llwyr o'r gyfraith ac mae dicter amlwg ymhlith y cyhoedd yn parhau, ac mae'n gwbl gyfiawn.'
'Rwy'n parhau i dderbyn llawer iawn o ebyst gan bobl leol sydd wedi'u gwylltio gan ragrith y Prif Weinidog a'i gynghorydd arbennig, yn enwedig gan fy mod yn gwybod am achosion lleol o ddioddefaint go iawn pan fo pobl wedi dilyn y rheolau.'
'Yr hyn sy'n gwneud yr ymddygiad hwn mor wrthun yw'r oblygiadau i bob un ohonom. Mae diystyrwch amlwg Mr Cummings o'r rheolau, y bu ef ei hun gyfrifol am lunio, yn destun gwawd o'r aberth personol y mae llawer o fy etholwyr wedi'u gwneud er budd pawb.'
‘Ond o’r hyn yr wyf yn ei wybod am y Prif Weinidog a’i record, fel newyddiadurwyr a gwleidydd, nid wyf yn synnu ei fod wedi dewis diystyru y sgandal iechyd cyhoeddus hon trwy osgoi craffu ar bob cyfle.’
‘Yr hyn a fydd yn drychinebus i’r broses o lywodraethu yw’r ffaith bod cymaint o’r Cabinet, pobl y byddai rhywun yn gobeithio eu bod â barn annibynnol, yn ymddwyn fel pe baent yn meddwl mai eu swyddogaeth yw ategu amddiffyniad Rhif 10 o’r Prif Weinidog a’i gynghorydd air am air.’
‘Y methiant i gondemnio gweithredoedd Cummings yw’r diweddaraf mewn llu o fethiannau gan Boris Johnson wrth drin yr argyfwng hwn, ac o farnu’r dystiolaeth wrthrychol, nid yw Mr Johnson na llawer o’i ffrindiau yn gymwys i’n harwain allan ohoni.’
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter