Mae angen esboniad brys gan y bwrdd iechyd, ICC a Llywodraeth Cymru meddai AC Plaid Cymru ac Arfon Sian Gwenllian
Mae AC Plaid Cymru Sian Gwenllian wedi dweud ei bod yn "frawychus" mai dim ond nawr y mae'r cyhoedd yn cael gwybod am y nifer sylweddol o farwolaethau cysylltiedig â Covid-19 ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
Yn y ffigurau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd heddiw, roedd Betsi Cadwaladr yn nodi 84 o farwolaethau adolygol yng ngogledd Cymru a ddigwyddodd rhwng 20 Mawrth a 22 Ebrill.
Dywedodd Sian Gwenllian AC sy'n cynrychioli etholaeth Arfon yng ngogledd Cymru fod angen "esboniad brys" gan y bwrdd iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i esbonio'r "mis o ffigurau rhy isel".
Dywedodd Ms Gwenllian fod "darlun llawn o nifer yr achosion" yn "hanfodol" i gynnal hyder y cyhoedd ac i roi sail gwybodaeth i weinidogion ar gyfer unrhyw benderfyniad i lacio'r cyfyngiadau symud.
Meddai AC Arfon Plaid Cymru Sian Gwenllian,
"Mae'n frawychus mai dim ond nawr yr ydym yn cael gwybod am nifer sylweddol o farwolaethau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
"Mae angen esboniad brys gan y bwrdd iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i esbonio'r mis o ffigurau rhy isel.
"Mae darlun llawn o nifer yr achosion yn hanfodol i gynnal hyder y cyhoedd ac i roi sail gwybodaeth i weinidogion ar gyfer penderfyniadau tyngedfennol megis llacio'r cyfyngiadau symud.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter