Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian yn annog Llywodraeth Lafur Cymru i fwrw ymlaen ar frys a chadarnhau dyddiad cychwyn yn gynnar yn y flwyddyn newydd ar gyfer gwaith ffordd osgoi Bontnewydd/ Caernarfon neu wynebu oedi annerbyniol pellach.
Mewn ateb diweddar i gwestiwn gan AC Arfon, Siân Gwenllian, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, y byddai penderfyniad yn cael ei wneud 'yn y gaeaf' gan ysgogi galwadau gan y gwleidyddion lleol i’r Llywodraeth gyhoeddi dyddiad cychwyn ddechrau Ionawr fel bod y gwaith yn gallu dechrau cyn gynted a phosib.
Cyfarfu Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC â'r Cynghorydd Peter Garlick ym Montnewydd sydd hefyd yn pwyso am ddyddiad cychwyn ar gyfer y gwaith.
Dywedodd Siân Gwenllian AC a Hywel Williams AS,
'Rydym yn teimlo ei bod yn hollbwysig fod dyddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ā phosib yn y Flwyddyn Newydd fel y gellir gwneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer dechrau’r gwaith ar y ffordd osgoi ym mis Gorffennaf 2018. Byddai unrhyw oedi pellach yn gwbl annerbyniol.'
'Mae rhwystredigaeth sylweddol yn lleol ynglŷn ag oedi parhus i'r prosiect, a oedd i fod i ddechrau yn 2016 a'i gwblhau erbyn 2018. Mae trafferth gyda tagfeydd yn yr ardal yn dal i fod yn broblem mawr i bobl leol.'
'Mae ymgyrch i recriwtio tri deg o brentisiaid yn disgwyl cadarnhad unwaith y bydd y dyddiad cychwyn wedi ei gyhoeddi, a fydd yn helpu i lenwi'r bwlch yn y diwydiant adeiladu ar draws y gogledd.'
'Bydd unrhyw oedi pellach i gynllun ffordd osgoi Bontnewydd/ Caernarfon hefyd yn debygol o gael effaith ar yr amserlen i hyfforddi prentisiaid newydd, gan roi mwy o bwysau ar y diwydiant.'
'Mae ffordd osgoi Caernarfon yn brosiect pwysig i'r ardal. Yn y tymor hir, bydd yn lliniaru traffig yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon, gan annog twf busnes a ffyniant. Yn y tymor byr bydd yn darparu cannoedd o swyddi.'
'Rydym felly'n annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo fel adduniad Blwyddyn Newydd i gyhoeddi dyddiad cadarn ar gyfer gwaith i ddechrau ar y cynllun hwn. Mae'n hollbwysig fod y prosiect lleol yma, sy'n hanfodol bwysig yn economaidd yn dechrau cyn gynted a phosib.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter