Mae Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS, wedi annog Llywodraeth Cymru i amddiffyn darpariaeth Gymraeg yn y bil Cwricwlwm newydd yn dilyn pryderon y gallai’r Bil danseilio cynlluniau trochi Cymraeg awdurdodau lleol.
Mae asesiad risg sy’n gysylltiedig â’r Bil Cwricwlwm newydd yn dweud y bydd gan gyrff llywodraethu ysgolion yn hytrach nag awdurdodau lleol rym dros wneud penderfyniadau dros bolisi iaith ysgolion pan fydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei gyflwyno.
Dadleuodd Ms Gwenllian y byddai hyn yn gwrth-ddweud ymdrechion a wnaed gan awdurdodau lleol i gyrraedd nod tymor hir Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yr wythnos hon, galwodd Ms Gwenllian ar y Gweinidog yr Iaith Gymraeg Eluned Morgan i drafod y mater hwn ar frys gyda’r Gweinidog Addysg i sicrhau y bydd y Bil yn cryfhau safle’r Gymraeg, yn hytrach na’i wanhau.
Meddai Aelod Plaid Cymru o’r Senedd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg Sian Gwenllian,
“Rhaid cynnal asesiad trylwyr ar yr effaith y bydd y bil Cwricwlwm newydd yn ei gael ar addysg Gymraeg a’r Gymraeg.
“Un elfen o’r ddeddfwriaeth newydd sydd wedi achosi pryder penodol yw ei bwriad i roi grym dros bolisi Cymraeg i gyrff llywodraethu unigol yn hytrach nag awdurdodau lleol.
“Byddai pob corff llywodraethu yn gallu penderfynu a ddylid dilyn polisïau trochi yn y Cyfnod Sylfaen, gan danseilio yn llwyr polisïau iaith cadarn llawer o awdurdodau lleol, ac yn ergyd ddifrifol i ddatblygiad addysg Gymraeg ledled Cymru.”
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter