Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams yn galw ar Lywodraeth y DU i gydnabod aberth gweithwyr tramor sy'n rhan o'r frwydr yn erbyn Coronafirws trwy roi dinasyddiaeth y DU iddynt.
Dywedodd yr Aelod Seneddol, sy'n cynrychioli nifer sylweddol o staff Ysbyty Gwynedd, Bangor, na fyddai'r gwasanaeth iechyd yn gallu gweithredu oni bai am gyfraniad allweddol gweithwyr iechyd o wahanol wledydd.
Yn dilyn galwadau gan weithwyr y gwasanaeth iechyd yn lleol, mae Hywel Williams wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel gan alw arni i roi dinasyddiaeth y DU i weithwyr allweddol sydd wedi gwneud cais.
Dengys ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS) fod 25% o staff mewn ysbytai yn y DU wedi eu geni dramor.
Dywedodd Hywel Williams AS,
'Yn syml, ni fyddai'r gwasanaeth iechyd lleol yn gallu gweithredu heb gyfraniad sylweddol ac aberth gweithwyr iechyd o wledydd gwahanol.'
'Eto'i gyd maent yn ymladd ar ddwy ffrynt; yn gyntaf yn erbyn y firws ei hun ac yn ail, yn erbyn system fewnfudo ddi-deimlad sy'n bygwth eu hawl i aros mewn gwlad y maen'n nhw'n ei gwasanaethu mor ddewr.'
'Rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod y risgiau a'r cyfraniad amhrisiadwy y mae staff y rheng flaen o wledydd eraill yn ei wneud.'
'Fel pob un o weithwyr allweddol, maent yn gweithio o dan bwysau enfawr ac amgylchiadau heriol iawn. Yn drist iawn, mae rhai eisioes wedi gwneud yr aberth eithaf am eu hymroddiad wrth ofalu am ein dinasyddion.'
'Mae Llywodraeth y DU eisioes wedi ymrwymo i ganiatau i wladolion tramor sy'n gweithio yn y GIG i aros yma am flwyddyn. Ond nid yw hyn ddigon da. A ydyn nhw'n dweud unwaith bydd y firws yma drosodd na fydd angen gwasanaethau'r bobl ymroddedig hyn mwyach?'
'Mae miloedd o weithwyr allweddol o dramor yn gweithio ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn y firws marwol yma, gyda nifer fawr yn cefnogi ymdrechion arwrol staff GIG Cymru yn Ysbyty Gwynedd yn fy etholaeth i.'
'Y lleiaf maent yn ei haeddu yw'r sicrwydd y bydd y bywyd maent wedi ei adeiladu iddynt eu hunain a'u teuluoedd yn y DU yn cael ei ddiogelu, ond yn fwy na dim fod eu haberth yn cael ei wirioneddol werthfawrogi.'
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter