Mae Plaid Cymru wedi galw i amddiffryn a rhoi cefnogaeth ychwanegol i'r sector gofal plant a'r gweithlu gofal plant ledled Cymru yn wyneb argyfwng y Coronafeirws.
Ddydd Gwener caewyd ysgolion yng Nghymru ar gyfer darpariaeth addysg statudol, ac mae ysgolion a lleoliadau gofal plant ar gyfer plant iau yn parhau ar agor i blant gweithwyr allweddol yn unig.
Er mwyn cefnogi'r sector, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn parhau i dalu lleoliadau sy'n derbyn cyllid ar hyn o bryd drwy'r cynnig gofal plant, hyd yn oed os nad oes plentyn yn mynychu.
Fodd bynnag, dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Siân Gwenllian AC, fod y cynnig cyllidol yn cynrychioli “cyfran” yn unig o incwm y sector gyda ffynonellau incwm yn “amrywio’n sylweddol” ymhlith y gwahanol fathau o leoliadau gofal plant.
Tynnodd Ms Gwenllian sylw at y ffaith nad oedd pob lleoliad gofal plant yn cael ei gategoreiddio fel busnesau, gyda nifer ohonynt yn gweithredu fel menter nid-er-elw neu fenter gymdeithasol, ac roedd diffyg eglurder ynghylch a fyddent hwythau hefyd yn gymwys ar gyfer y mesurau a gyflwynwyd gan y Canghellor a Llywodraeth Cymru.
Galwodd Ms Gwenllian am ragor o gefnogaeth ac eglurder ynghylch pa gefnogaeth oedd ar gael.
Dywedodd y Gweinidog Cysgodol dros Addysg hefyd y dylid ehangu’r profion i gynnwys gweithwyr gofal plant, yn ogystal â gwirio tymheredd staff a phlant.
Ymhlith y lleoliadau gofal plant sydd wedi dweud eu bod yn “gynyddol bryderus” am yr “argyfwng ariannol sydd ar droed” a chanlyniadau hynny i’w busnes mae meithrinfa Ffalabalam ym Mangor
Dywedodd Siân Gwenllian, y Gweinidog Cysgodol dros Addysg.
“Bellach mae gweithwyr gofal plant yn cael eu cydnabod fel gweithwyr allweddol a byddant yn chwarae rôl werthfawr wrth sicrhau y gall gweithwyr allweddol eraill barhau i weithio ar y rheng flaen yn wyneb argyfwng pandemig Covid-19.
Mae pryderon hefyd fod cymhlethdod y sector yn golygu na fydd y gefnogaeth fusnes a gynigir ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys pob math o leoliadau, neu na fydd rhai darparwyr yn derbyn cymaint o gefnogaeth ag eraill. Mae’r sawl sy'n hunangyflogedig megis gwarchodwyr plant, staff asiantaeth a gweithwyr ar gontractau dim oriau yn bryder yn benodol.
“Mae’n rhaid cael mwy o eglurder ynghylch y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i bawb, mwy o wybodaeth ar sut mae cael gafael ar y cyllid hwnnw, a chydlynu rhwng pob lefel o lywodraeth a phob math o ddarpariaeth – boed yn breifat, gwirfoddol neu mewn ysgolion, er mwyn sicrhau fod pawb yn derbyn cefnogaeth gyfartal.
Dywedodd Menna Jones, Cyfarwyddwr Ffalabalam,
“Oherwydd y sefyllfa bresennol, rydym yn gynyddol bryderus am yr argyfwng ariannol sydd ar droed i’n busnes.
“Mae’r llywodraeth wedi rhoi deddfwriaeth ar waith yn ogystal â darparu pecynnau cymorth er mwyn cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Fodd bynnag, nid oes unrhyw sicrwydd y byddwn ni fel meithrinfa yn y categori sy’n derbyn cymorth - a hyd yn oed wedyn mae'n annhebygol y byddwn yn derbyn y gefnogaeth ariannol hon ar unwaith. Fel busnes rydym eisoes yn teimlo effaith andwyol ar lif arian a chynaliadwyedd y busnes.
“Mae’n rhaid i’r llywodraeth ddarparu’r cyllid sydd ar gael i’n cefnogi, a hynny ar frys er mwyn inni allu goresgyn yr her o’n blaenau. Sut allwn ni edrych ar ôl plant gweithwyr allweddol os bydd yn rhaid i ni gau?
Ychwanegodd Siân Gwenllian AC, y Gweinidog Cysgodol dros Addysg.
“Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu ac ehangu ei mesurau profi yn ogystal, er mwyn lleoli ac ynysu achosion o’r firws. O ystyried mai plant i rieni ar y rheng flaen fydd llawer o’r plant, mae’n hollbwysig fod mynediad at brofion ar gael - dylai hynny gynnwys gwirio tymheredd staff a phlant, a gwaharddiad llym pe bai unrhyw un yn arddangos symptomau o'r firws.
“Mae gweithlu’r sector gofal plant ar reng flaen yr argyfwng hwn ac rydym am eu cefnogi a diolch iddynt am eu hymateb cyflym i’r argyfwng. Byddwn yn parhau i ddibynnu ar eu gwaith pan fydd yr argyfwng ar ben.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter