Gwleidyddion Plaid Cymru yn galw am becyn cymorth brys i warchod Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhag toriadau.
Mae pwysau yn cynyddu ar lywodraeth Lafur Cymru i ddarparu cefnogaeth ariannol ar unwaith i ddiogelu dyfodol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Arfon Siân Gwenllian a’r Aelod Seneddol Hywel Williams wedi galw ar lywodraeth Cymru i roi cyllid o’r neilltu ar frys i sicrhau dyfodol yr ased diwylliannol.
Daw eu hymyrraeth wrth i ddeiseb yn galw ar lywodraeth Cymru i gynyddu ei chefnogaeth ariannol i’r sefydliad dderbyn bron i 12,000 o lofnodion.
Mae'r gwleidyddion lleol wedi cael eu lobïo gan nifer o etholwyr sy'n ddefnyddwyr rheolaidd o'r Llyfrgell Genedlaethol, sy’n datgan pryder bod Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru, Dafydd Elis-Thomas, yn ymddangos yn amharod iawn i ddod o hyd i ateb i'r argyfwng.
Dywedodd Sian Gwenllian AS:
'Mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu pryderon ariannol Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n cael ei adlewyrchu'n glir yn y diffyg cyllid a neilltuwyd ar gyfer y Llyfrgell yn y gyllideb ddiweddaraf.'
'Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant wedi methu â derbyn argymhellion i gynyddu'r cyllid, a wnaed gan Adolygiad Teilwra o'r Llyfrgell Genedlaethol.'
'Ar ran Plaid Cymru, rwyf wedi herio'r Llywodraeth i ddarparu cefnogaeth ddigonol i'r Llyfrgell ar dri achlysur gwahanol yn y Senedd yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, ond bu hyn yn ofer.'
'Mae'r Llyfrgell Genedlaethol eisoes wedi ailstrwythuro yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi colli 90 o staff. Bellach mae'n wynebu'r posibilrwydd o golli 30 aelod arall o staff, a fyddai'n bygwth y gwaith hynod bwysig y mae'r Llyfrgell yn ei wneud.'
'Mae'r Llyfrgell yn rhan sylfaenol o fywyd diwylliannol, addysgol a hanesyddol Cymru a rhaid i Lywodraeth Cymru neilltuo cyllid priodol ar frys i'w diogelu.'
Dywedodd Hywel Williams AS:
'Mae pawb sydd â diddordeb yn niwylltiant a hanes Cymru yn sylweddoli gwerth ein Llyfrgell Genedlaethol rhagorol.'
'Pe gorfodid toriadau pellach arni mae perygl gwirioneddol byddwn yn colli blynyddoedd lawer o arbenigedd a blaengarwch mewn cynifer o feysydd.'
'Rhaid i Lywodraeth Cymru ysgwyddo ei chyfrifoldeb ar fyrder a rhoi cefnogaeth uniongyrchol i’r Llyfrgell. Mae dyfodol un o drysorau diwylliannol Cymru a’r byd yn y fantol.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter