Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru Gwynedd Hywel Williams a Liz Saville Roberts, wedi galw ar Drysorlys y DU i gefnogi mesurau rheoli Covid-19 gyda pecyn cymorth penodol i ddiogelu swyddi yn y sector addysg awyr agored.
Mae'r Aelodau Seneddol wedi cyflwyno Cynnig gerbron Ty'r Cyffredin yn annog llywodraeth y DU i ehangu'r cynllun ffyrlo a darparu cefnogaeth benodol i sectorau sydd wedi dioddef yn anghymesurol yn sgil y pandemig, gan gynnwys canolfannau awyr agored sy'n cyflogi cannoedd o swyddi yng Ngwynedd.
Apeliodd Hywel Williams a Liz Saville Roberts i'r llywodraeth ddarparu cefnogaeth frys i'r sector dwristiaeth, addysg awyr agored, hamdden, lletygarwch a'r celfyddydau er mwyn amddiffyn swyddi dros fisoedd y gaeaf.
Dywedodd Hywel Williams AS,
‘Mae canolfannau addysg awyr agored yn darparu buddion enfawr o ran hybu iechyd corfforol a meddyliol plant, wrth wella cyfleoedd pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.’
'Ond, mae eu dibyniaeth ar ymweliadau ysgol a phreswyl am gyfran sylweddol o'u hincwm yn golygu y byddant yn parhau mewn trafferthion tra bydd y rheoliadau iechyd angenrheidiol mewn lle.'
'Ynghyd â llawer o fusnesau yn y sector twristiaeth, hamdden, lletygarwch a'r celfyddydau; mae canolfannau addysg awyr agored, a’r swyddi sy’n ddibynnol arnynt, yn wynebu gaeaf llwm ac ansicr.’
'Rhaid cofio bod y rhain yn fusnesau hyfyw, a oedd yn ffynnu cyn y pandemig a dyna pam mae'n rhaid eu cefnogi fel eu bod yn barod i agor cyn gynted ag y gellir codi cyfyngiadau.'
'Galwaf ar frys ar lywodraeth y DU i sicrhau bod mesurau iechyd yn cael eu ategu gan gefnogaeth economaidd a bod mesurau wedi'u targedu yn cael eu rhoi ar waith ar frys i helpu'r sectorau hyn trwy fisoedd y gaeaf, gan gynnwys ehangu pellach ar y cynllun ffyrlo.'
Dywedodd Liz Saville Roberts AS,
'Er ei bod yn ddealladwy pam ei bod yn anodd i ysgolion drefnu ymweliadau gweithgareddau awyr agored ar hyn o bryd, mae'n hanfodol bod canolfannau yng Ngwynedd ac ar draws Cymru yn barod i weithredu cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ailagor.'
'Maent yn enghraifft benodol o sector sydd wedi'i orfodi i gau i lawr yn ystod yr argyfwng hwn ond heb gael fawr o gefnogaeth gan y llywodraeth.'
'Mae'n anochel y bydd llawer o blant wedi bod gartref yn ystod argyfwng Covid-19, a rhaid i'r cyfleon i fwynhau ymarfer corff yn yr awyr iach fod ar gael mor eang a phosib er eu lles hwy ac i hybu ffyrdd iach o fyw yn y dyfodol.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter