Galw ar yr adran drafnidiaeth i ddiogelu dyfodol Canolfan Brawf Caernarfon.
Bywoliaeth cwmniau lleol yn y fantol os yw'r ganolfan yn cau medd Hywel Williams AS.
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi galw ar yr Adran Drafnidiaeth (DfT) i ddiogelu canolfan brawf y DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau), yng Nghaernarfon.
Mae Hywel Williams wedi derbyn ymholiadau gan gwmniau hyfforddi gyrrwyr (gan gynnwys Ysgol Yrru Carmel) sy’n bryderus fod camau ar y gweill i adleoli y ganolfan brawf i Wrecsam. Byddai cau'r ganolfan ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn yn ergyd enfawr i fusnesau hyfforddi gyrwyr HGV lleol, sy'n darparu cyrsiau gyrru gan gynnwys hyfforddiant LGV, HGV a PCV, ar draws Gwynedd gyfan.
Mae’r DVSA wedi gwrthod cadarnhau dyfodol Canolfan Brawf Caeranrfon. Mae Hywel Williams AS wedi trefnu cyfarfod a Gweinidog yn yr Adran Drafnidiaeth, Baroness Vere.
Os yw’r ganolfan brawf yn symud o Gaernarfon, bydd disgwyl i'r rhai sy'n cymryd prawf Cerbydau Nwyddau Mawr (LGV), Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) a cherbydau Cludo Teithwyr (PCV) sefyll eu prawf yn Wrecsam.
Dywedodd Hywel Williams AS,
‘Mae’n gwbl annerbyniol fod y DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau) yn ystyried cau cyfleusterau lleol pwysig heb unrhyw ymgynghori ymlaen llaw o gwbl, a hynny pan fydd bywoliaethau hyfforddwyr gyrru’r ardal yn y fantol.’
‘Mae cael canolfan brawf DVSA wedi’i lleoli’n ganolog yng Nghaernarfon yn golygu y gall dysgwyr o bob rhan o Wynedd sefyll eu prawf yn lleol, ac ar ffyrdd y maent yn gyfarwydd â hwy, ac y maent wedi seilio eu rhaglen hyfforddi arbenigol arnynt.’
‘Y peth olaf yr wyf am ei weld yw dim gwasanaeth o gwbl yn cael ei ddarparu yng Ngwynedd ac i yrrwyr newydd gael eu gorfodi i sefyll eu prawf yn Wrecsam. Rwy’n bryderus iawn am y pryder a grëwyd gan yr ansicrwydd yma.’
‘Rwyf wedi codi’r mater hwn yn uniongyrchol gyda’r Adran Drafnidiaeth a byddaf yn cyfarfod y Gweinidog i ddadlau’r achos dros ddiogelu’r ganolfan leol yma. Nid yw hyn yn unrhyw ffordd i unrhyw asiantaeth lywodraethol rhesymol weithredu.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter