Mae Aelod Seneddol San Steffan Plaid Cymru Arfon Hywel Williams ac Aelod o’r Senedd Siân Gwenllian wedi galw am ddiweddariad brys ar waith i ailagor stryd fawr Bangor, wyth mis ar ôl iddi gael ei chau i draffig yn dilyn tân difrifol.
Mae pryderon wedi eu mynegi am gynnydd araf yn y rhaglen waith wrth iddi ymddangos y bydd y ffordd trwy ran uchaf y stryd fawr yn parhau ar gau am gyfnod estynedig.
Dywedodd Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AS,
‘Mae wyth mis bellach wedi mynd heibio ers i stryd fawr Bangor gau i gerbydau yn dilyn tân difrifol a arweiniodd at ddifrod strwythurol sylweddol ym mwyty Noodle One ac eiddo cyfagos, sydd wedi’i ddynodi’n anniogel ac yn aros i’w ddymchwel.’
‘Mae busnesau wedi delio â dirywiad sylweddol mewn masnach ac wedi gorfod delio â phroblemau gyda loriau nwyddau yn cael mynediad i’r stryd fawr, yn enwedig ar gyfer cerbydau trwm. Daeth hyn cyn i Covid-19 waethygu’r sefyllfa.'
‘Er bod mesurau cychwynnol wedi’u rhoi ar waith i liniaru’r effaith ar fusnesau lleol, megis trefniadau rheoli traffig amgen, erbyn hyn mae ymdeimlad amlwg o rwystredigaeth o fewn y gymuned leol bod y cynnydd o ran adfer y sefyllfa wedi arafu.’
'Bu galwadau parhaus am amserlen gadarn i waith ddechrau ar ddymchwel yr adeilad yr effeithiwyd arno fel y gellir paratoi i ailagor y stryd fawr cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib fel y gall masnachwyr ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd.'
'Rydym yn deall bod y rhaglen waith ar gyfer cam dymchwel y gwaith y tu allan i gylch gwaith Cyngor Gwynedd ac mae'n profi i fod yn llawer mwy heriol na'r disgwyl, a heb amheuaeth wedi'i waethygu gan effaith cyfyngiadau iechyd cyhoeddus Covid-19.'
'Ar ôl trafod y sefyllfa gyda Maer Bangor, sydd wedi lleisio ei bryderon ei hun, rydym yn gwerthfawrogi y cymhlethdodau sydd ynghlwm a’r gwaith yn ogystal ag ymdrechion i fynd i’r afael a’r sefyllfa, ond rydym yn annog y gwaith dymchwel i ddechrau a chael ei gwblhau cyn gynted â phosib.'
'Mae ein masnachwyr lleol yn gweithio'n galed iawn i gadw eu siopau i fynd o dan amgylchiadau arferol. Mae sefyllfa Covid-19 wedi rhoi pwysau ychwanegol di-angen ar fanwerthwyr. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw rhywfaint o sicrwydd ac arwydd bod pethau'n symud yn eu blaen.'
'Mae stryd fawr Bangor, gyda'i arlwy o siopau annibynnol bach angen ein cefnogaeth rwan yn fwy nag erioed, a gallwn ni i gyd chwarae ein rhan wrth gefnogi masnachwyr lleol trwy'r amser anodd hwn, a hynny mewn modd diogel ac wrth gadw at ganllawiau iechyd cyhoeddus.'
Ychwanegodd Maer Bangor, y Cynghorydd John Wyn Williams,
'Mae busnesau y stryd fawr yn mynd trwy gyfnod eithriadol o heriol ar hyn o bryd, ac mae angen sicrwydd arnynt pa gynnydd sy'n cael ei wneud gyda'r gwaith dymchwel.'
'Rwy'n gobeithio y gallwn gael rhywfaint o eglurder fel y gall busnesau lleol a phobl Bangor fod yn dawel eu meddwl bod pethau'n symud ymlaen.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter