Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi codi pryderon newydd am ddyfodol gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drafod newidiadau pellgyrhaeddol i ddarpariaethau iechyd.
Mae’r Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru wedi darganfod y bydd y bwrdd iechyd yn trafod y newidiadau hyn yn eu cyfarfod nesaf, (Ddydd Iau 24.01.19) gan gynnwys cyfuno gwasanaethau cleifion mewnol wroleg i ddau safle yn hytrach na thri, dileu gofal strôc aciwt o ddau safle a chyfuno orthopedeg dewisol o bum safle i dri.
Mae Siân Gwenllian AC hefyd wedi cwestiynu pam na wnaed unrhyw asesiad effaith ar effeithiau israddio gwasanaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd ar gleifion sy'n byw yng ngogledd orllewin Cymru, gan y bydd disgwyl rwan iddynt deithio dros awr i gael triniaeth frys.
Dywedodd Siân Gwenllian AC,
'Rydym eisoes wedi bod yn dyst i dro pedol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ynghylch gofal fasgwlaidd i bobl sy'n byw yng ngogledd orllewin Cymru, gan dorri addewid i amddiffyn y gwasanaeth arloesol hwn yn Ysbyty Gwynedd.'
'Ar ôl methu â bodloni fy mhryderon ynglŷn â'u hymrwymiad i gleifion sy'n byw yng ngogledd orllewin Cymru, mae'r bwrdd iechyd rwan yn trafod newidiadau pellach i wasanaethau allweddol ar draws y gogledd, gan gynnwys gwasanaethau gofal strôc aciwt ac wroleg.'
‘Fodd bynnag, nid oes unrhyw eglurder pa ysbytai fydd yn colli'r gwasanaethau hyn. Hyd yma, rydym wedi gweld y bwrdd iechyd yn gwthio diwygiadau pellgyrhaeddol trwy'r drws cefn gyda ychydig iawn o graffu cyhoeddus ac ychydig iawn o dryloywder.’
'Fy mhryder mwyaf yw y bydd Ysbyty Gwynedd a chleifion yng mhellteroedd gogledd-orllewin Cymru unwaith eto yn dioddef yn sgil symud gwasanaethau iechyd i’r dwyrain, heb fod yn ymwybodol fod diwygiadau mor eang ar y gweill a bod gwasanaethau hanfodol o dan fygythiad.'
'Rwyf felly yn galw ar y bwrdd iechyd a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd yn Llywodraeth Lafur Cymru i egluro fel mater o frys pa safleoedd sy'n cael eu hystyried ar gyfer israddio ac i sicrhau fy etholwyr na fydd mwy o wasanaethau yn cael eu colli o Ysbyty Gwynedd.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter