Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams a’r Aelod Senedd Siân Gwenllian wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru yn lleisio pryderon am gynlluniau i gau eu canolfan ym Maes Awyr Caernarfon a chanoli y gwasanaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Yn ddiweddar, datgelodd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n gweithredu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac EMRTS, fwriad i ad-drefnu eu gwasanaethau cenedlaethol a allai arwain at gau safleoedd Caernarfon a’r Trallwng a sefydlu un lleoliad canolog yn y gogledd-orllewin.
Mae galwadau Hywel Williams a Sian Gwenllian wedi’u hadleisio gan Liz Saville Roberts AS, Mabon ap Gwynfor AS (Dwyfor Meirionnydd) a Rhun ap Iorwerth AS (Ynys Môn).
Mae'r gwleidyddion yn cwestiynu sut y bydd y trefniant newydd arfaethedig yma yn cryfhau gwasanaethau meddygol brys diogel yng Ngwynedd wledig lle mae pobl yn byw gryn bellter o adran Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Gwynedd.
Ymunodd y gwleidyddion Plaid Cymru ag ymgyrchwyr ym Maes Awyr Caernarfon, Dinas Dinlle ddydd Sadwrn mewn sioe o undod i alw i gadw’r gwasanaeth yng Nghaernarfon.
Ymhlith yr ymgyrchwyr oedd Cian Wyn Williams o Borthmadog a gafodd ei achub gan yr Ambiwlans Awyr yn dilyn damwain ym Mhorthmadog ddeng mlynedd yn ol.
Dywedodd Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AS:
'Mae nifer o'n hetholwyr yn Arfon wedi cysylltu â ni, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau codi arian yr Ambiwlans Awyr yn lleol, yn pryderu am ad-drefnu arfaethedig y gwasanaeth.'
'Ein dealltwriaeth ni yw mai'r cynnig yw cau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng a sefydlu un ganolfan newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru, tra'n cynnal y canolfannau presennol yn ne Cymru fel ag y maent.'
'Mae'r cynnig hwn wedi achosi gofid sylweddol yn ardal Arfon, gydag awgrymiadau mai ymarfer torri costau yw'r cynlluniau yn bennaf a fydd yn arwain at wasanaeth arall yn symud i'r dwyrain, ar draul cymunedau gwledig Gwynedd ac Ynys Môn.'
‘Mae yna bryderon y byddai cau’r ganolfan yng Nghaernarfon yn arwain at oedi mewn amseroedd ymateb gan y byddai angen i’r hofrennydd deithio o ymhellach i ffwrdd gyda pryderon am yr angen i'w llenwi a thannwydd yn fwy aml.'
'Mae pryderon hirsefydlog eisoes am amseroedd ymateb Ambiwlans Cymru. Byddai cau canolfan Caernarfon ond yn ychwanegu at bryderon am fylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer gogledd orllewin Cymru.'
‘Mae’n rhesymol tybio, os yw’r Ambiwlans Awyr wedi’i leoli mewn ardal â phoblogaeth uwch, a chyda’r A55 ar y stepen drws, bydd yn cael ei dynnu at fynychu digwyddiadau a oedd gynt dan law Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac felly’n mynychu mwy o ddigwyddiadau bob blwyddyn.'
'Mae pryder bod targedau ar gyfer nifer y digwyddiadau a fynychir bob blwyddyn yn cael eu blaenoriaethu dros y math o ddigwyddiadau, er enghraifft digwyddiadau mewn ardaloedd anghysbell, gwledig gyda mynediad anodd ac amseroedd teithio hir i ysbytai.'
'Byddai hefyd yn ddefnyddiol gwybod a oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i effaith y cynigion hyn ar weithgareddau codi arian yn lleol, a’r gymuned. Mae'r Ambiwlans Awyr wedi dod yn rhan annatod o fywyd yn Arfon. Mae perygl y bydd cau'r ganolfan yn tanseilio'r ewyllys da hwn.'
'Mae pryderon amlwg am ddyfodol y staff sifil a meddygol a gyflogir yn y ganolfan yng Nghaernarfon, gyda llawer ohonynt yn cael eu tynnu i'r ardal oherwydd y cyfle i weithio yn y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr.'
'Os bydd safle Caernarfon yn cau, efallai y bydd y bobl hynod hyfforddedig a phrofiadol hyn yn symud i rywle arall - colled enfawr i'r GIG yn lleol.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter