Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi ymuno â Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor i alw ar Brifysgol Bangor i wneud yr iaith Gymraeg yn hanfodol wrth recriwtio ar gyfer Is-Ganghellor newydd.
Mewn llythyr at Fwrdd Rheoli'r Brifysgol, dywedodd Siân Gwenllian AC ei bod yn hollbwysig bod y gallu i siarad Cymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd, sydd yn cael ei hysbysebu yn dilyn ymadawiad y cyn Is-Ganghellor, John Hughes.
Dywedodd AC Plaid Cymru ei bod yn hollbwysig, er mwyn cynnal yr ethos ieithyddol unigryw Gymraeg yn y Brifysgol a datblygu addysg Gymraeg a chysylltiadau cymunedol ymhellach, fod rhaid i ddeilydd y swydd fod yn rhugl yn y Gymraeg.
Dywedodd Siân Gwenllian AC,
‘Mae cysylltiadau Prifysgol Bangor â'r gymuned Gymraeg a Chymreig o'i chwmpas yn waelodol i'w hunaniaeth. Mae'r cysylltiad yn un hanesyddol a dwfn a does dim rhaid i mi eich hatgoffa am geiniogau chwarelwyr Bethesda a’r ardal a roddodd i'r Brifysgol ei bodolaeth yn y lle cyntaf nag am gewri ein llenyddiaeth a'n byd academaidd Cymraeg sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r sefydliad ers blynyddoedd.’
‘I gynnal yr ethos yma rhaid i bennaeth y sefydliad fedru siarad ein hiaith. Byddai unrhywbeth llai na hynny yn gam yn ôl yn sylweddol. Ym myd cystadleuol addysg uwch, rhaid i bob sefydliad ganfod a defnyddio arbenigedd a nodweddion unigryw. Y Gymraeg sy'n rhoi i Brifysgol Bangor ei naws arbennig ac unigryw. Rhaid adeiladu ar hynny a rhaid cael yr arweiniad digamsyniol hwnnw o frig y sefydliad.’
‘Ymunaf âg Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor i alw ar y Brifysgol i wneud y Gymraeg yn ofyniad hanfodol wrth hysbysebu ar gyfer swydd Is-Ganghellor, nid yn unig i gadw at ei strategaeth a'i gweledigaeth ei hun mewn perthynas â datblygu defnydd o'r Gymraeg ond hefyd i gryfhau'r berthynas rhwng y Brifysgol a’r gymuned ehangach a chynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y Brifysgol.’
‘Mae cynnal a datblygu'r ymrwymiad cryfaf posibl i'r iaith Gymraeg gan sefydliadau blaenllaw megis Prifysgol Bangor yn hollbwysig i ddyfodol yr iaith. Mae'n helpu i greu gweithlu lleol dwyieithog hyderus, gan wasanaethu cymuned ddwyieithog hyderus.’
‘Hyderaf bydd y Brifysgol yn arwain trwy esiampl ac yn adeiladu ar y gwaith ardderchog a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf wrth ddatblygu ac ehangu darpariaeth yr iaith Gymraeg yn un o'n sefydliadau academaidd mwyaf parchus.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter