Bydd y gwaith trwsio yn cael ei wneud ar y ffordd yn Neiniolen yn dilyn pryderon lleol
Bydd gwaith yn cael ei wneud ar Allt Sam yn Neinolen ar ôl i bryderon gael eu lleisio ynglŷn â chyflwr y ffordd, sy’n ffordd “hanfodol” i drigolion lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'n ymddangos bod difrod a achoswyd gan ddŵr o safle gerllaw yn effeithio ar gyflwr y ffordd, sydd wedi achosi problemau i fysiau a cheir sy'n defnyddio'r ffordd.
Yn ddiweddar aeth Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon, draw i’r safle yng nghwmni'r Cyng. Catrin Elen Wager, Aelod Cabinet dros Briffyrdd ac Elfed Williams, cynghorydd lleol Deiniolen.
Dywedodd Siân Gwenllian AS;
“Mae cyflwr y ffordd yn destun pryder mawr i drigolion lleol, ac rwy’n falch o weld bod y Cyngor yn cymryd camau priodol.
“Mae’r gorlifo wedi difrodi’r ffordd, gan achosi problemau i drigolion lleol ynghyd ag achosi problemau i gwmnïau bysys a chontractwyr lleol.
“Edrychaf ymlaen at ymweld â’r safle eto ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, a hoffwn sicrhau trigolion y byddaf i, ynghyd â’r cynghorydd lleol, yn cadw llygad barcud ar gynnydd y gwaith.”
Ymatebodd Elfed Williams, sy'n cynrychioli ward Deiniolen ar Gyngor Gwynedd;
“Mae cyflwr y briff ffordd yn Allt Sam yn destun pryder i drigolion lleol.
“Mae’n ffordd sy’n cael ei defnyddio’n aml, ac edrychaf ymlaen at weld gwaith yn cael ei gwblhau i safon uchel.”
Aeth Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Briffyrdd y Cyng. Catrin Elen Wager draw i Allt Sam yr wythnos diwethaf;
“Rwyf wedi derbyn cadarnhad y bydd y ffordd yn cael ei thrwsio, ac rwy’n falch iawn bod adran y Cyngor yn gwrando ar bryderon lleol, ac yn gweithredu yn unol â’r pryderon hynny.
“Byddaf yn monitro’r sefyllfa, ac yn sicrhau ein bod yn mynd at wraidd y broblem unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau ar y safle cyfagos sydd wedi achosi’r problemau.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter