Agorwyd gwely flodau lliwgar gan yr Aelod Cynulliad Siân Gwenllian ger mynedfa un o stadau tai mwyaf Cymru, ym Maesgeirchen, Bangor.
Dywedodd Siân Gwenllian, ‘mae’r datblygiad yma yn ffordd hardd o groesawu pawb i’r stad. Canmoliaeth i’r Cynghorydd Nigel Pickavanc am y syniad gwych. Mae’r prosiect wedi bod o fudd i nifer o bobl wrth iddynt ennill sgiliau amhrisiadwy. Da iawn pawb!’
Cafodd y prosiect ei gyllido gan Gartrefi Cymunedol Gwynedd, Cymunedau’n Gyntaf a chwmni Adeiladwaith Wynne’s sydd yn adeiladau ysgol newydd ar y stad i Gyngor Gwynedd.
Cyllidwyd cwrs amgylcheddol gan Gymunedau’n Gyntaf, lle'r oedd adeiladu’r gwely flodau yn rhan o ennill cymhwysterau.
Roedd y llechen yn rhodd gan Chwarel Penrhyn, Bethesda. Cafodd y cynllun cyfan ei hwyluso gan Thomas James Cockbill o Wild Elements ac Andrew Davies o Bartneriaeth Maesgeirchen Partnership Fast Track.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter