Roedd Dydd Gwener ddiwethaf (Hydref 19) yn ddiwrnod yr elusen Breast Cancer Now i godi ymwybyddiaeth o’r angen am ymchwil i ganser y fron a chynnal y diwrnod Wear It Pink, a chefnogwyr y diwrnod yn gwisgo pinc i’r gwaith, i’r ysgol neu allan yn y gymuned.
Dywedodd Siân Gwenllian AC:
"Canser y fron yw'r math mwyaf cyffredin o ganser o hyd yn y DU. Bob blwyddyn mae tua 11,500 o ferched ac 80 o ddynion yn colli eu bywydau i'r afiechyd. Dyna pam yr wyf mor angerddol dros y diwrnod gwisgo pinc bob blwyddyn.
"Mae gwisgo pinc yn ffordd wych o ddod ynghyd â ffrindiau a theulu i gael hwyl wrth godi arian ar gyfer ymchwil hanfodol Breast Cancer Now. Mi ges i dynnu’n llun mewn gwisg go drawiadol efo Jules Peters, sydd yn gwybod ond yn rhy dda pam fod cyllido ymchwil canser y fron mor ofnadwy o bwysig. Ar ôl dychwelyd i fy etholaeth fe wnaeth ein tîm o staff swyddfa wisgo pinc i ddod i’r gwaith er mwyn nodi’r diwrnod pwysig yma.”
Yn ymuno â nhw yng Nghynulliad Cymru yng Nghaerdydd oedd y seren roc o Gymru, Jules Peters, ynghyd â'i gŵr Mike. Mae Jules, a gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn haf 2016, yn gobeithio y bydd pobl ledled Cymru a gweddill y DU yn ymuno â hi i gymryd rhan yn y digwyddiad codi arian,
Dywedodd Jules Peters, o band roc Cymru The Alarm:
'"Wedi bod trwy ganser y fron fy hun, rwy'n falch iawn o fod yn cefnogi gwisgwch rywbeth pinc eleni, gyda fy ngŵr Mike - mae'n ddigwyddiad codi arian gwych sy'n dod â theuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr at ei gilydd i helpu ariannu ymchwil i'r clefyd ofnadwy yma, tra'n cael hwyl yr un pryd.
"Rwy'n hynod o angerddol am godi ymwybyddiaeth o'r clefyd, a rhannu fy mhrofiadau i helpu menywod eraill, sy'n gorfod wynebu diagnosis fel y gwnes i. Rhaid inni roi stop ar y clefyd ofnadwy hwn, a'r unig ffordd i wneud hynny yw trwy barhau i ariannu ymchwil hanfodol. "
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter