Mae Aelod San Steffan Plaid Cymru Arfon Hywel Williams ac Aelod o Senedd Cymru Sian Gwenllian wedi disgrifio'r newyddion fod Debenhams ar fin cau 124 o siopau yn y DU fel 'newyddion difrifol i Fangor.'
Mae gan y gadwyn dair siop yng ngogledd Cymru gan gynnwys un yng nghanol Dinas Bangor.
Dywedodd Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AS,
‘Mae’r newyddion hyn yn tanlinellu’r peryglon sy’n wynebu ein trefi a'n dinasoedd, wrth i lawer o fusnesau ei chael yn anodd goroesi trwy argyfwng Covid-19 a’r mesurau iechyd cyhoeddus sy’n cyfyngu ar gapasiti a galw.’
‘Byddai colli siop fel Debenhams yn ergyd fawr i unrhyw dref neu ddinas, ond byddai cau siop Bangor yn cael ei deimlo’n galed iawn gan ei bod mewn man canolog ar y stryd fawr. Byddai cau y siop yn gadael bwlch enfawr i’w lenwi yng nghanol y ddinas.’
‘Bydd y cyhoeddiad hwn yn arbennig o siomedig i’r staff, ac erfynwn ar Debenhams i’w cefnogi ar adeg pan na all ein heconomi leol fforddio ansicrwydd economaidd pellach.'
'Heb os, mae effaith Covid-19, gan gynnwys cau siopau adwerthu am gyfnodau hir, wedi cyfrannu at y cyhoeddiad hwn. Rwan yn fwy nag erioed, mae angen cefnogaeth frys ar ganol ein trefi a'n dinasoedd gan y llywodraeth i'w helpu i adfer ar ôl Covid.'
'Mae Plaid Cymru wedi cynnig cyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r anawsterau sy'n wynebu ein strydoedd mawr a helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd.'
'Mae'r rhain yn cynnwys darparu cefnogaeth wedi'i thargedu i fusnesau y tu allan i'r dref i adleoli i leoliadau canolog i helpu i adfywio canol trefi ac ailwampio cyfraddau busnes, gan ddarparu fframwaith rhentu teg i gwmnïau'r stryd fawr.'
'Heb atebion ymarferol a chydnabyddiaeth gan y llywodraeth o ddifrifoldeb y sefyllfa, yna bydd y rhagolygon ar gyfer ein strydoedd mawr yn parhau i fod yn llwm iawn.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter