Mae Siân Gwenllian AC yn croesawu’r newyddion fod cwmni Gwynfor Coaches yn gweithredu gwasanaeth 88 Llanberis i Gaernarfon o ddydd Llun, 24 Medi 2018 ar ôl i gwmni Arriva dynnu yn ôl. Mi fydd Arriva yn parhau i weithredu ar ddydd Sul.
"Mae hwn yn wasanaeth hollbwysig i drigolion Llanberis, Cwm-y-Glo a Llanrug gan fod cymaint o bobl yn dibynnu arno i gyrraedd eu gwaith ac apwyntiadau yng Nghaernarfon. Mae gwasanaethau cefn gwlad yn colli allan yn aml a byddai lawer haws cynnal gwasanaeth sefydlog petai’r cyfrifoldeb am wasanaethu bysus yn cael ei roi mewn dwylo cyhoeddus.’
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter