Mi fydd myfyrwyr sy’n dymuno astudio cwrs gradd feddygaeth yn gallu gwneud hynny ym Mhrifysgol Bangor o 2019 ymlaen, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Trwy gydweithrediad rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor, bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd â’u gradd feddygol israddedig yn llawn yng ngogledd Cymru.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian, ac Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams;
"Mae hyn yn newyddion ardderchog gan ei fod yn golygu bod meddygon yn cael eu hyfforddiant ym Mangor am y tro cyntaf. Gan fod tystiolaeth yn dangos yn glir bod myfyrwyr yn aros i weithio fel meddygon teulu neu ddoctoriaid yn yr ardaloedd ble maen nhw’n hyfforddi, mae hyn yn ddatblygiad gwych i gleifion sydd yn wynebu rhestrau aros hirfaith am apwyntiadau oherwydd diffyg meddygon.
"Mae Plaid Cymru wedi mynnu erioed ei bod hi’n angenrheidiol inni gael rhagor o feddygon a staff er mwyn gwarchod ein gwasanaeth iechyd sydd mor agos at ein calonnau i gyd. Rydym wedi bod yn pwyso am hyfforddiant meddygol is-raddedig llawn ym Mangor ac rydym yn falch fod y llywodraeth wedi gwrando o’r diwedd.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ymgyrchu efo ni ac i’n cydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am fod mor benderfynol o gyrraedd y nod yma. Bydd cyflwyno hyfforddiant meddygon is-raddedig llawn o fudd i’r Brifysgol ac i Ysbyty Gwynedd ac mi fydd dinas Bangor a’i thrigolion yn elwa’n fawr iawn o ganlyniad i hynny. Mi fydd hefyd yn cynnig cyfleon ac opsiynau i bobl ifanc y gogledd sydd ar hyn o bryd yn gadael yr ardal i hyfforddi i fod yn feddygon. Dyma ddiwrnod ardderchog i ogledd Cymru!"
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter