Codi pryderon am ddyfodol gwasanaeth fasgwlaidd arloesol ym Mangor yn ystod PMQs
Heddiw, lle isio ydi pryderon am ddyfodol y gwasanaeth fasgwlaidd brys ac i gleifion yn Ysbyty Gwynedd, Bangor a'r sgil-effaith ar israddio gwasanaeth yn yr ysbyty adeg Cwestiynau'r Prif Weinidog gan AS Arfon, Hywel Williams.
Bu pryderon am dyfodol yr uned fasgwlaidd enwog yn Ysbyty Gwynedd byth ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gymeradwyo cynlluniau am theatr driniaethau newydd gwerth £2.76 miliwn yn Ysbyty Glan Clwyd, wrth i'r bwrdd iechyd symud i ganoli gwasanaethu fasgwlaidd ar draws y gogledd.
Meddai Hywel Williams AS,
‘Mae Ysbyty Gwynedd yn f'etholaeth yn darnau gwasanaethu fasgwlaidd hanfodol i'r gymuned leol, gydag enw da ledled y byd am ganlyniadau rhagorol.’
‘A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder, oherwydd methiannau Llywodraeth Caerdydd ar iechyd, fod cleifion yn gorfod teithio ymhellach, hyd yn.oed i Loegr, i gael thriniaethau o safon?’
Ychwanegodd Hywel Williams AS,
'Mae'r tim fasgwlaidd ym Mangor wedi hen sefydlu ac yn cael ei gydnabod fel y gorau yng Nghymru am waith ar friwiau a thriniaethau cleifion dialysis yr arennau, a hwy yw'r gorau yn y byd o ran atal colli coesau, sy'n arbennig o berthnasol i bobl â diabetes.’
‘Byddai unrhyw ymgais i symud gwasanaethau o Ysbyty Gwynedd yn peryglu yn ddiangen fywydau'r sawl sy'n byw mewn cymunedau mwy pellennig.’
‘Mae hyd yn oed y Gymdeithas Fasgwlaidd (yr ymgynghorwyr a argymhellodd ganoli gwasanaethau) wedi cydnabod y gall fod ar ardaloedd gwledig megis gogledd Cymru angen agwedd wahanol oherwydd y rheidrwydd i gleifion deithio ymhellach.’
'Rhaid i ni gadw statws Ysbyty Gwynedd a gwrthwynebu unrhyw ymgais i symud ein gwasanaethau craidd tua'r dwyrain.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter