Hywel Williams
Aelod Seneddol Arfon
Diolch am ymweld â'm gwefan.
Fe’m hetholwyd yn Aelod Seneddol Plaid Cymru dros sedd Arfon yn 2015 & 2010, a chyn hynny roeddwn yn AS dros sedd Caernarfon o Fehefin 2001 ymlaen.
Mae'n anrhydedd aruthrol cael cynrychioli fy nghynefin yn Nhŷ’r Cyffredin a gweithio ar faterion pwysig i bobl leol.
Ar y wefan hon cewch wybodaeth am y cymorthfeydd wythnosol rwy’n eu cynnal ar draws yr etholaeth, gwybodaeth am fy ngwaith yn lleol, cofnodion o fy nghyfraniadau seneddol, fy natganiadau diweddaraf i’r wasg a’m colofnau papurau newydd ac ymgyrchoedd.
Os hoffech drafod unrhyw fater gyda mi, mae croeso i chi drefnu i ddod i'm gweld mewn un o’m cymorthfeydd wythnosol, neu ysgrifennu drwy lythyr neu e-bost.
Hywel Williams AS