Heddiw, aeth Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams y tu ôl i’r llyw gyda bws gwennol trydan cymunedol newydd wrth iddo helpu i lansio Bws Ogwen yn ym Methesda.
Bydd y gwasanaeth sy’n cael ei redeg gan Bartneriaeth Ogwen ac sy’n dechrau ddydd Iau Gorffennaf 21 yn rhedeg gwasanaethau dyddiol rhwng Bethesda a Llyn Ogwen o fis Ebrill i fis Hydref, gan alw yn Penrhyn Terrace, Yr Hen Bost, Llyn Ogwen a Phen y Benglog. Rhwng Tachwedd a Mawrth, bydd y bws ar gael i'w logi gan y gymuned.
Bydd y bws trydan yn cael ei wefru yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda gyda chynlluniau ar y gweill i osod paneli solar Ynni Ogwen ar y to i ddarparu’r cyflenwad ynni. Cefnogwyd y prosiect gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA), Cyfeillion y Ddaear a Pharc Cenedlaethol Eryri ymhlith eraill.
Wrth sôn am y gwasanaeth newydd, dywedodd AS Arfon, Hywel Williams:
'Roeddwn yn falch iawn o fynychu lansiad swyddogol Bws Ogwen ym Methesda heddiw a helpu i roi hwb i'r ased cymunedol ac ymwelwyr gwych hwn sy'n adnodd werthfawr i'n hamgylchedd ac yn ateb ymarferol, cynaliadwy i broblemau parcio lleol.'
'Hoffwn dalu teyrnged i Bartneriaeth Ogwen am eu buddsoddiad parhaus mewn mentrau gwyrdd sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd ac i sefydliadau partner am eu cefnogaeth i gyflawni'r prosiect cyffrous hwn.'
'Am bris rhad o £3, gall teithwyr neidio ar y bws gwennol ym Methesda a chael eu gollwng yn Llyn Ogwen heb orfod poeni am ddod o hyd i le parcio neu fentro i barcio yn anghyfreithlon.’
'Mae'r bws gwennol yn rhedeg ochr yn ochr â gwasanaeth Traws Cymru, gan ddarparu capasiti ychwanegol i'r rhai sy'n bwriadu defnyddio Llyn Ogwen fel canolfan i ddechrau eu taith gerdded. Mae'n ddewis cyfleus, cost isel a charbon niwtral yn lle defnyddio'ch car ac yn amlach na pheidio, parcio'n anghyfreithlon.'
'Rwy'n edrych ymlaen at weld y bws gwennol yn mynd ar y ffordd ac yn gobeithio y bydd ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd yn defnyddio ac yn cefnogi'r bws hwn sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd, ac ein hannog ni i gyd i wneud ein rhan dros yr amgylchedd.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter