Mae ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a’r iaith Gymraeg wedi galw am ymchwiliad annibynnol brys yn dilyn cadarnhad fod newidiadau mawr i feini prawf yr arholiad wedi golygu bod disgyblion a safodd yr arholiad TGAU Saesneg yn haf 2018 wedi eu rhoi dan anfantais glir o’u cymharu â disgyblion a safodd yr arholiad yn haf neu hydref 2017.
Wrth godi’r mater yn siambr y Senedd heddiw, dywedodd AC Plaid Cymru dros Arfon a’r ysgrifennydd cabinet cysgodol dros Addysg a’r iaith Gymraeg Sian Gwenllian,
“Rwy’n ymwybodol iawn o bryderon rhieni, athrawon ac arweinwyr addysg yng ngogledd Cymru o ganlyniad i ganlyniadau arholiad TGAU Saesneg. Mae’n ymddangos bod plant yn y gogledd a safodd yr arholiadau yn haf 2018 wedi cael tro gwael.
“Gallai hyn fod wedi effeithio ar hyd at 700 o blant – plant a allasai fod wedi cael gradd C neu’n uwch petaent wedi eu trin yr un modd â phlant a safodd yr arholiadau yn 2017. Mae hyn yn effeithio ar eu dewisiadau am yrfa yn y dyfodol, ac y mae hyn yn amlwg yn annheg.
“Mae honiad difrifol arall fod athrawon yng ngogledd Cymru wedi colli hyder mewn dau gorff - Cymwysterau Cymru a CBAC.
Gofynnodd Sian Gwenllian AC i Lywodraeth Cymru gymryd ‘pryderon o ddifrif’ ac i gynnal ymchwiliad annibynnol pellach – ond gwrthod hynny wnaeth Arweinydd y Tŷ, Julie James AC.
Meddai Sian Gwenllian AC,
“Nid yw ymateb Llywodraeth Cymru yn dderbyniol. Mae Cymwysterau Cymru wedi cynnal ymchwiliad, ond nid yw hynny wedi rhoi unrhyw hyder i rieni yn y system. Mae rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn cymryd y pryderon hyn o ddifrif ac un o’r ffyrdd hynny yw ymchwiliad annibynnol pellach.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter