A hithau’n Fis Hanes LHDT – cyfle i ddathlu’r gymuned hoyw a thrawsrywiol ac i gofio am y rhai a fu’n brwydro dros hawliau’r cymunedau rheiny – mae Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian yn annog pawb sydd a diddordeb yn hanes a diwylliant y gymuned LHDT i fynychu digwydd arbennig yn Pontio ddydd Sadwrn yma.
Un o’r rhai sydd yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad ydi Carwyn Humphreys, Cadeirydd Balchder Gogledd Cymru.
“Mae’r digwyddiad yma yn un hollbwysig yn ein calendr ni fel cymuned oherwydd bod prinder digwyddiadau tebyg yn y rhan yma o Gymru,” meddai Carwyn Humphreys. “Oherwydd toriadau mewn cyllid mae ‘na ddiffyg gwasanaethau i’r gymuned LHDT ac oherwydd natur ddaearyddol gogledd orllewin Cymru mae hi’n anodd i bobol ddod at ei gilydd i rannu profiadau a chefnogi ei gilydd. Rydan ni’n andros o ffodus o’r Clwb Ieuenctid LHDT sydd yn cwrdd yn wythnosol yn Gisda. Mae tua 15 aelod yn mynd yna’n gyson sydd yn beth gwych i bobol ifanc yr ardal.”
Mae Pontio wedi cyd-weithio efo Gisda, Unity a Balchder Gogledd Cymru er mwyn dod a diwrnod arbennig o ffilmiau a stondinau er mwyn nodi’r mis pwysig yma. Mi fydd y ffilm Pride yn cael ei ddangos a bydd siaradwyr gwadd yn cyflwyno ambell un o’r ffilmiau, gan gynnwys aelod o’r grŵp LGSM (Lesbians and Gays Support the Miners).
Dywed Siân Gwenllian, “Roedd cysylltiad cryf rhwng aelodau o’r gymuned lesbiaidd a hoyw yn y trefi a’r dinasoedd yn Lloegr a oedd yn brwydro dros hawliau’r gymuned honno ac efo’r glowyr a’u cefnogwyr a oedd yn brwydro dros eu hawliau hwythau yma yng Nghymru. Mi wnes i gwrdd a rhai o aelodau grŵp yr LGFM ar y pryd, ac mi fydd hi’n braf cael croesawu rhai o’r grŵp i Fangor dydd Sadwrn. Mae Mis Hanes LHDT yn gyfnod hollbwysig i bobol gael dod at ei gilydd yn y rhan yma o Gymru ble mae’r gymuned yn wasgaredig iawn ac yn cael trafferth dod at ei gilydd yn aml. Mae hefyd yn gyfle i nodi unwaith eto bod aelodau o’r cymunedau hoyw a thrawsrywiol yn yr ardal hon yn dal i brofi rhagfarn, ac fel y Gweinidog Cysgodol dros Gyfartaledd mae’n destun tristwch imi bod hynny’n dal i ddigwydd mewn oes sydd i fod yn fwy goleuedig, ac rydw i’n mawr obeithio y bydd y digwyddiad yn Pontio dydd Sadwrn yn fodd o atgoffa pobol bod rhaid parchu’r gwahaniaethau sydd o fewn ein cymdeithas.”
“Y bwriad ydi i roi llwyfan i’r maes yma, i bobol gael cwrdd a’i gilydd a ffendio lle mae ‘na grwpiau neu wasanaethau eraill iddyn nhw,” meddai Carwyn Humphreys o Balchder Gogledd Cymru. “Yn anffodus does yna fawr ddim yn digwydd yr ochr yma i Landudno ond y gobaith ydi y bydd pobol yn gallu meithrin cysylltiadau yn y digwyddiad dydd Sadwrn. Mae’n gallu bod yn anodd i berson ifanc hoyw mewn cymuned yng nghefn gwlad ble mae pawb yn nabod ei gilydd ac ella ddim bob tro yn garedig iawn am bobol hoyw. Dwi’n dod o Benygroes ac roeddwn i’n ffodus iawn o gael teulu a ffrindiau cefnogol, ond dydi pawb ddim mor lwcus.”
Gobaith y trefnwyr yw y bydd y digwyddiad yn Pontio yn denu diddordeb ar draws gogledd orllewin Cymru ac yn fodd o ysbrydoli digwyddiadau eraill.
Dywed Siân Gwenllian, “Mi fydd y diwrnod ym Mangor yn fodd o ddathlu’r gymuned LHDT, o wneud ffrindiau newydd ac o fwynhau ffilmiau sydd yn berthnasol i’r gymuned. Mi fydd hefyd yn gyfle i gofio’r rhai a fu’n brwydro mor galed dros hawliau pobol sydd wedi dioddef rhagfarn ofnadwy – ac sydd yn dal i wneud, yn anffodus – ac i atgoffa pobol sydd ddim yn rhan o’r gymuned bod rhaid parchu gwahaniaeth a chefnu ar ragfarn.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter