Yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf dathlwyd Diwrnod Llefrith Ysgol y Byd wrth i’r Aelodau i gyd dderbyn peint o lefrith Cymreig fel symbol o bwysigrwydd y diwydiant llaeth i Gymru. Un o’r rhai i dderbyn y llefrith - a ddaeth o laethdy lleol - oedd AC Arfon dros Blaid Cymru, Siân Gwenllian.
“Ar hyn o bryd mae plant ysgol yn derbyn llefrith am ddim, ac mae hynny’n hollbwysig i’w hiechyd nhw,” meddai Siân Gwenllian, “ac ar yr un pryd wrth gwrs mae’n gyfraniad hollbwysig i iechyd ein diwydiant llaeth, sydd yn rhan mor hanfodol o economi cefn gwlad Cymru. Mae Diwrnod Llefrith Ysgol y Byd yn gyfle ardderchog i dynnu sylw at bwysigrwydd llefrith i ni i gyd, gan ei fod o’n rhoi cychwyn da i bob plentyn yng Nghymru sydd yn gymorth iddynt dyfu i fyny’n oedolion iach.”
Llyr Gruffydd, Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru lansiodd y diwrnod [Mercher, Medi 26ain] yng Nghymru drwy fynd â pheint o lefrith Cymraeg y ffarmwr Rhys Lougher o laethdy Tŷ Tanglwyst i bob Aelod Cynulliad.
Dywedodd Mr Gruffydd: “Mae parhau gyda llefrith am ddim i ddisgyblion cynradd yn hollbwysig i iechyd plant ac i ddiwydiant llaeth Cymru. Mae Diwrnod Llefrith Ysgol y Byd yn ymgyrch ryngwladol sy’n rhoi pwyslais ar bwysigrwydd llefrith i dyfiant pobl ifanc. Mae plant angen tynnu llawer o faeth ac egni o’u bwydydd er mwyn sicrhau tyfiant a datblygiad digonol, ac mae carton o lefrith hanner-sgim yn darparu 42% o anghenion calsiwm dyddiol plant 7-11 oed, yn ogystal â 24% o’u anghenion protin dyddiol.
“Mae’n bwysig hefyd i’r diwydiant llaeth yng Nghymru ein bod yn hybu cynnyrch Cymreig yn ein hysgolion ac yn cryfhau’r cysylltiad rhwng ffermwyr a chwsmeriaid y dyfodol.
“Byddaf yn dosbarthu’r llefrith a roddwyd gan NFU Cymru i bob Aelod Cynulliad sydd yn yr adeilad er mwyn atgoffa ein gwleidyddion i gyd o bwysigrwydd maeth da i’n plant ond hefyd i’n diwydiant llaeth.”
Un o’r Aelodau i dderbyn peint o lefrith gan Llyr Gruffydd oedd Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon, a ddywedodd:
“Roeddwn i’n falch iawn o dderbyn diod o lefrith Cymreig ben bore wedi ei roi drwy law Llyr gan laethdy Tŷ Tanglwyst – mae fy etholaeth i mewn ardal wledig ble mae nifer o fy etholwyr yn ffermwyr a nifer o’r cymunedau rydw i’n eu cynrychioli yn dibynnu ar y diwydiant amaeth sydd â’r diwydiant llaeth wrth ei galon. Roedd derbyn y peint o lefrith yn ffordd effeithiol o’n hatgoffa ni i gyd o’r gwaith sy’n digwydd yn dawel bach yn ein cymunedau gan ffermwyr llaeth, a’r holl gynhyrchion sydd yn deillio o’r diwydiant llaeth – cynhyrchion rydan ni’n eu cymryd yn gwbwl ganiataol. Gyda Brexit yn bygwth ar y gorwel, rydw i’n boenus ymwybodol o’r bygythiad i’r ffermwyr yma rydan ni mor ddibynnol arnyn nhw am ein bwyd, a da oedd cofio hynny bore ma wrth dderbyn y llefrith.”
Dywedodd Mr Gruffydd hefyd fod llefrith ysgol, sydd ar hyn o bryd yn cael ei roi am ddim i blant y Cyfnod Sylfaen ac am bris isel i blant eraill oed cynradd, wedi ei gyllido yn rhannol gan yr UE ac y bydd angen ei gynnal ar ôl Brexit.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Llefrith NFU Cymru, Gareth Richards: “Hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd am drefnu’r digwyddiad yma ac am gymryd yr amser i dynnu sylw ei gyd-weithwyr yn y Cynulliad at bwysigrwydd llefrith a chynnyrch llaeth i ddatblygiad plant. Dwi’n gobeithio eu bod wedi mwynhau dechrau eu diwrnod gyda pheint o lefrith ffres Cymreig. Hoffwn hefyd ddiolch i fy nghyd-ffermwr llaeth ac aelod o NFU Cymru, Rhys Lougher o Laethdy Tŷ Tanglwyst am ddarparu’r llefrith.
“Roedd Diwrnod Llefrith Ysgol y Byd yn gyfle perffaith i dynnu sylw at ei bwysigrwydd ac at y rôl hollbwysig mae’n ei chwarae wrth helpu plant i gynnal deiet cytbwys ac iach. Mae cael plant oed ysgol i yfed llefrith yn hollbwysig wrth daclo lefelau cynyddol gordewdra, dadhydradiad a diffygion pobl ifanc mewn pethau pwysig fel ïodin a chalsiwm.
“Fel NFU Cymru rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod llefrith a chynnyrch llaeth yn parhau i fod ar gael ac yn fforddiadwy i ysgolion er mwyn helpu i hybu deiet cytbwys ac iach, i gefnogi diwydiant llaeth Cymru ac i ddatblygu patrymau prynu at y dyfodol.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter