Gan fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi datgan na fyddan nhw yn dod â deddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg gerbron yn ystod y flwyddyn nesaf, mae Plaid Cymru eisiau gweld nhw’n gweithredu yn syth er mwyn gwireddu’r uchelgais o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 a gweithredu ar gefnogaeth eang pobl Cymru i’r Gymraeg.
Meddai Sian Gwenllian AC, llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg,
“Flwyddyn ers i Alun Davies gyhoeddi papur gwyn dadleuol ar Fil y Gymraeg yn Eisteddfod Ynys Môn, dyma ni mewn Eisteddfod arall gyda Llafur mor ddigyfeiriad ag erioed ynglŷn a’u strategaeth ar gyfer yr iaith– a dim byd wedi digwydd yn y cyfamser ond troi yn yr unfan.
“Mae absenoldeb Bil y Gymraeg o’r rhaglen ddeddfwriaethol – sef rhestr o’r biliau fydd yn dod gerbron y Cynulliad yn ystod 2018/19 – yn golygu ei fod yn gwestiwn bellach a fydd cynlluniau ffôl y Llywodraeth i wanio’r ddeddfwriaeth iaith bresennol yn digwydd o gwbl – yn wyneb newid Prif Weinidog, cymhlethdod Brexit a’r ffaith bydd Etholiad Cynulliad yn 2021.
“Ond nid yw’r ffaith na fydd deddfu am y tro yn esgus dros lusgo traed a cholli momentwm. I’r gwrthwyneb, mae angen ac mae modd gweithredu ar fyrder o blaid y Gymraeg a chreu’r Miliwn o Siaradwyr.
“Mae’n gyfnod cyffrous i’r Gymraeg, gyda chefnogaeth gref i’r iaith ledled Cymru – yn ôl tystiolaeth Llywodraeth Cymru ei hun. Mae hynny’n cyferbynnu’n llwyr â’r diffyg cefnogaeth gan bobl Cymru i gynlluniau Eluned Morgan a Llywodraeth Cymru gyda Bil y Gymraeg. Heddiw, mae Plaid Cymru’n amlinellu cynllun amgen er mwyn rhoi terfyn ar wastraffu amser ar Fil y Gymraeg.
“Byddai Plaid Cymru yn bwrw ati fory nesaf gyda Rhaglen Weithredu uchelgeisiol fyddai’n cynnwys:
- Cynnal ymgyrch fawr genedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg a manteision dwyieithrwydd
- Creu cyfleon i blant ac oedolion o bob cwr o Gymru gael blasu bywyd a gwaith mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith fyrlymus a naturiol y gymuned
- Datblygu gwaith Arfor ( cydweithio strategol rhwng pedair sir y Gorllewin) gan ddatblygu economi’r ardaloedd ble mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol
- Creu cynllun hyfforddi gweithlu cynhwysfawr ar gyfer ehangu addysg Gymraeg ar draws Cymru
- Sefydlu corff hyrwyddo a chynllunio ieithyddol newydd – o fewn y fframwaith gyfreithiol sydd yn bodoli yn barod – i gynllunio dyfodol y Gymraeg mewn modd strategol, gan adael Comisiynydd y Gymraeg i fwrw ymlaen â’r gwaith rheoleiddio
- Symud ymlaen i ddefnyddio’r ddeddfwriaeth bresennol i greu gwasanaethau Cymraeg statudol ym maes cymdeithasau tai; dwr; cwmnïau post, bysiau trenau a rheilffyrdd ; nwy a thrydan a thelathrebu.
- Symud ymlaen i gynnwys archfarchnadoedd a banciau yn y rhaglen waith fel bod modd cael gwasanaethau dwyieithog fel hawl cyfreithiol.
- Creu Cyfarwyddiaeth y Gymraeg rymus ar lefel corfforaethol o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob adran o’r Llywodraeth yn gweithio tua’r Miliwn
“Mae gen i yr ewyllys gwleidyddol i roi hyn ar waith. Os yw Eluned Morgan a Llafur wir o ddifri o blaid creu miliwn o siarawdwyr Cymraeg, rhaid iddyn nhw brofi hynny. Nid drwy eiriau gwag ond trwy weithred. Rwy’n galw arnyn nhw heddiw i roi’r rhaglen uchod ar waith ar fyrder neu i esbonio pam nad ydyn nhw am wneud hynny.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter