Yn dilyn nifer o gyfarfodydd gyda’r Llywodraeth, swyddogion a gwleidyddion, mae’r Blaid yng Ngwynedd yn falch bod y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai, Julie James, wedi gwrando ar y pryderon bod risg i berchnogion ail gartrefi sy’n fwriadol wedi trosglwyddo i dreth fusnes er mwyn osgoi talu trethi, allu cael mynediad at grantiau cefnogi busnesau.
Dywedodd arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (yn y llun): “Rydym yn falch bod y Gweinidog wedi gwrando arnom ac wedi newid y canllawiau busnes sydd ar gael i gefnogi busnesau bach gwledig Gwynedd a siroedd eraill yng Nghymru.
“Byddai wedi bod yn gwbl anfoesol bod unigolion sydd berchen ail gartrefi yn cael mynediad i’r pecyn cymorth ariannol yma o du’r Llywodraeth. Byddai’n mynd yn gwbl groes i ethos y cynllun, sef pecyn i sicrhau economi hyfyw mewn cyfnod aneconomaidd oherwydd yr haint yma sy’n lledaenu trwy’r wlad.
“Yma yng Ngwynedd, byddai wedi golygu bod rhwng £15m a £18m o arian cyhoeddus yn cael ei ryddhau, a hynny, mewn cyfnod lle bydd pwysau ariannol dybryd ar arian trethdalwyr o ganlyniad i ddelio gyda Covid-19.
Er i swyddogion Cyngor Gwynedd gyflwyno canllaw cwbl glir fyddai’n amddifadu’r rhai hynny fyddai wedi gosod eu hail gartref am gyfnod er mwyn osgoi talu’r Dreth Gyngor, penderfynodd y gweision sifil, ddilyn trywydd gwahanol.
Mae canllawiau newydd y Llywodraeth, yn nodi bod angen dilyn tri cymal penodol, sef bod:
- llety hunanarlwyo yn cyflwyno dwy flynedd o gyfrifon masnachu hyd at 31 Mawrth 2019
- rhaid i lety hunanarlwyo osod yr adeilad am gyfnod o 140 diwrnod neu fwy yn ystod y flwyddyn ariannol 2019-20
- busnes llety hunanarlwyo yw prif ffynhonnell incwm y perchennog (y trothwy lleiaf yw 50%).
Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Mae’r Gweinidog wedi nodi bod talu’r grant yn nwylo disgresiwn bob cyngor. Hoffwn gadarnhau i fusnesau bach Gwynedd, boed nhw’n fferm sydd wedi trosi beudy yn dŷ gwyliau ar y buarth neu’n deulu sydd wedi addasu cyn gartref teuluol yn dŷ gwyliau, y byddwn yn edrych yn ffafriol ar eich cefnogi. Y mathau yma o fusnesau sy’n cynnig darpariaeth werthfawr o fewn y sir y dylem ni fod yn eu cefnogi yn ystod y cyfnod heriol yma.”
Mae’r grant yma i’w ddefnyddio i gefnogi busnesau gwledig bychain yng Ngwynedd sydd wedi ei heffeithio’n uniongyrchol o ganlyniad i ddeddfau’r Llywodraeth sy’n atal cwmnïau a busnesau rhag masnachu. Mae’n ymwneud yn benodol a’r dreth fusnes ac mae ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy'n berchen eiddo.
Cefnogodd arweinwyr cynghorau sir eraill ledled Cymru gwaith y Blaid yng Ngwynedd wrth bwyso am newidiadau i’r canllawiau. Yn eu mysg roedd cynghorau sir Ynys Môn, Conwy, Ceredigion a Phenfro, lle mae nifer uchel o ail gartrefi yn bodoli. Bu trafodaethau niferus hefyd trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chyda gwleidyddion Plaid Cymru.
Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad y Blaid dros Arfon: “Dwi’n llongyfarch arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, Dyfrig Siencyn a swyddogion Cyngor Gwynedd am eu dygnwch yn y gwaith o bwyso ar y Llywodraeth am degwch cymdeithasol yn y maes hwn. Mae sicrhau bod mwy o arian yn y coffrau i gefnogi busnesau gwyliau go iawn, yn bwysig i’r economi wledig ledled Cymru.
“Rydym, fel Plaid, wedi bod yn pwyso am newidiadau deddfwriaethol yn y maes hwn ers tro byd. Rydym yn gwbl argyhoeddedig bod bwlch amlwg yn y ddeddf a byddaf yn parhau i weithio gyda’r Blaid yng Ngwynedd a’r Cyngor i argyhoeddi’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd, bod angen newid parhaol i osgoi bod sefyllfaoedd fel hyn yn codi dro ar ôl tro.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter