Y CYHOEDD YN CAEL EU TWYLLO GAN STYFNIGRWYDD BETSI AR OFAL FASGIWLAR MEDDAI’R AC LLEOL.
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi cyhuddo Llywodraeth Llafur Cymru o roi anghenion y Blaid Lafur o flaen diogelwch y cyhoedd yn dilyn gwrthodiad y Prif Weinidog i gychwyn ymgynghoriad cyhoeddus newydd ar symud gwasanaethau fasgiwlar brys o Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Gan godi'r mater yn sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog, dywedodd Siân Gwenllian AC, ei bod yn ddyletswydd ar y Prif Weinidog i ‘ymyrryd yn uniongyrchol’ a chyfarwyddo BIPBC i gynnal ymgynghoriad tryloyw a brys gyda’r cyhoedd ar effaith diogelwch cleifion gogledd orllewin Cymru sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau.
Daw ymyrraeth Siân Gwenllian yn dilyn ymddiswyddiad Aelod o Fwrdd BIPBC sydd wedi rhybuddio y bydd bywydau’n cael eu colli os bydd y newidiadau yn digwydd.
Dywedodd Siân Gwenllian AC,
‘Tra roedd y Prif Weinidog ym Mhalas Buckingham, fe glywodd y Senedd bod y bwrdd iechyd wedi camarwain y cyhoedd ar y mater o israddio gwasanaeth fasgiwlar ym Mangor.’
‘Ers hynny, mae aelod blaenllaw o’r bwrdd iechyd wedi ymddiswyddo dan brotest - cam difrifol iawn - ac eto, nid oes UNRHYW fwriad gan Lywodraeth Llafur Cymru i gamu i mewn.’
‘Gwir y peth yw mai agenda gwleidyddol Llafur sydd yn gyfrifol am ffafrio ysbyty mewn sedd ymylol, ar draul gwasanaeth i gleifion ar draws gogledd Cymru.’
‘Hyd yn hyn mae’r Bwrdd Iechyd wedi penderfynu anwybyddu galwadau am asesiad effaith ar symud gwasanaeth fasgwlar brys o Ysbyty Gwynedd, ar gleifion sy’n byw yn rhannau pellaf o ogledd orllewin Cymru.’
'O ganlyniad, mae newidiadau yn cael eu gwthio trwy ddrws cefn gyda chyn lleied o graffu cyhoeddus ac ychydig neu dim tryloywder ar draul gofal cleifion ac yn y pen draw, eu diogelwch.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter