Bwrw bol ym Mhenrhosgarnedd

Mae ‘cymorthfeydd’ yn gyfle i gynrychiolwyr gwleidyddol gyfarfod wyneb yn wyneb â’u hetholwyr i drafod materion a phryderon lleol.

 

Ac yn fuan bydd yr aelod lleol yn Senedd Cymru yn cynnal un o’i chymorthfeydd rheolaidd ym Mhenrhosgarnedd.

 

Mae Siân Gwenllian AS wedi gwahodd trigolion lleol i gwrdd â hi a’r cynghorydd lleol i drafod materion yn ymwneud â Senedd Cymru, gan gynnwys iechyd, tai, addysg, a’r amgylchedd, neu faterion yn ymwneud â Chyngor Gwynedd, gan gynnwys caniatâd cynllunio.

 

Er bod Menna Baines yn gynghorydd sir dros ward Y Faenol, mae croeso i drigolion o bob rhan o’r ddinas ddod i drafod eu pryderon.

 

Bydd y gymhorthfa yn cael ei chynnal ym Mhenrhosgarnedd ar 24 Mai. Am resymau diogelwch ni fydd y lleoliad yn cael ei ddatgelu ymlaen llaw, ond dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu gysylltu â’r swyddfa i drefnu apwyntiad. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at [email protected] neu drwy ffonio 01286 672076.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2024-05-17 11:00:51 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd