Mae Aelodau'r Senedd wedi beirniadu cynlluniau i symud y Ganolfan Cyswllt Clinigol o'i lleoliad presennol yn Llanfairfechan. Mae'r ganolfan, sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Bryn y Neuadd i'w symud i Dŷ Elwy yn Llanelwy.
Ond yn ôl ASau Gwynedd ac Ynys Môn, bydd symud y ganolfan yn creu rhwystrau ariannol ac ymarferol i aelodau staff sy’n gweithio yn Llanfairfechan. Yn ogystal â hynny, maent yn honni y bydd symud yn cael effaith andwyol ar wasanaeth cyfrwng Cymraeg Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru.
Canolfannau Cyswllt Clinigol sy'n delio â galwadau 999, ac yn ôl tri Aelod o’r Senedd
bydd symud y ganolfan yn rhwystr i aelodau staff sy'n teithio o'u hetholaethau rhag gweithio yn y gwasanaeth.
Mae Siân Gwenllian AS a Mabon ap Gwynfor AS, sy’n cynrychioli Gwynedd yn y Senedd, ynghyd â Rhun ap Iorwerth AS, cynrychiolydd Ynys Môn, wedi ysgrifennu at Wasanaethau Ambiwlans Cymru yn eu hannog i ailystyried symud. Maen nhw hefyd wedi gofyn i Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, ymyrryd. Maent yn dal i aros am ateb gan y naill a'r llall.
Yn ôl Siân Gwenllian AS sy’n cynrychioli Arfon yn y Senedd, bydd y penderfyniad yn effeithio ar ei hetholwyr yn Arfon sy’n gweithio yn y ganolfan ar hyn o bryd, a hefyd yn arwain at golli nifer sylweddol o swyddi o’r ardal.
“Mae’r bwriad i symud y Ganolfan Cyswllt Clinigol o Lanfairfechan yn rhan o batrwm diweddar o adleoli swyddi yn y gwasanaethau iechyd tua’r dwyrain.
“Mae swyddi yn y sector cyhoeddus yn hanfodol bwysig i economi gogledd orllewin Cymru ac mae’n rhaid gwrthwynebu colli’r swyddi hynny.
“Mae’n teimlo fel petai’r penderfyniad wedi’i wneud heb ystyriaeth briodol o’r effaith economaidd hirdymor ac i’r effaith y byddai symud yn ei gael ar y gwasanaeth dwyieithog sydd ar gael ar hyn o bryd.”
Mae aelodau staff a chynrychiolwyr undeb yn y safle presennol yn cydnabod yr angen am leoliad newydd gan fod y cyfleusterau presennol yn ddiffygiol, ond maen nhw'n honni y byddai symud yn ychwanegu 50 milltir at daith rhai aelodau o staff. Maent yn honni o’r herwydd y byddai’r baich ariannol anochel yn rhwystr i weithwyr yng ngogledd orllewin Cymru.
Mae’r pryderon hynny wedi’u codi gan Mabon ap Gwynfor sy’n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd yn y Senedd:
“Bydd symud y ganolfan i Lanelwy yn cael effaith negyddol ar tua 100 o aelodau staff sy’n byw i’r gorllewin o’r safle presennol yn Llanfairfechan, gan gynnwys rhai o fy etholwyr i yn Nwyfor Meirionnydd.
“Byddai’r bwriad i symud yn cael effaith yn arbennig ar staff sydd ar ben isaf y raddfa gyflog, a fydd yn wynebu baich ariannol ychwanegol i deithio, ar adeg pan na all llawer fforddio’r fath ergyd ar incwm eu haelwyd.”
Mae aelodau staff hefyd wedi lleisio eu pryderon am oblygiadau ieithyddol posibl y symudiad. Amcangyfrifir bod 66% o'r gweithlu presennol yn siarad neu'n deall Cymraeg, ond credir y byddai symud tua'r dwyrain yn arwain at ostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg. O'r staff Cymraeg eu hiaith sydd wedi'u lleoli yn Llanfairfechan ar hyn o bryd, mae 72% yn byw yng Ngwynedd neu Ynys Môn. Mae Siân Gwenllian AS wedi dweud y bydd yn ysgrifennu at Jeremy Miles fel Gweinidog y Gymraeg i gyfleu ei phryderon.
Mewn llythyr at Jason Killens, Prif Weithredwr Ambiwlans Cymru, honnodd yr ASau y byddai costau adleoli, gan gynnwys costau teithio staff yn fwy na £250,000 dros bedair blynedd. Mae’r Aelodau’r Senedd hefyd wedi cefnogi dymuniad aelodau staff i’r ganolfan gael ei hadleoli i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno. Yn ôl y gweithwyr byddai'r opsiwn hwn yn lleihau effeithiau ariannol ac ymarferol y symud, yn ogystal ag osgoi problemau gyda'r safle arfaethedig yn Llanelwy, sy’n cynnwys diffyg parcio.
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd Ynys Môn sy’n gartref i lawer o aelodau staff:
“Dwi’n bryderus iawn am y bwriad i adleoli’r Ganolfan Cyswllt Clinigol o Lanfairfechan i Lanelwy, a’r effaith uniongyrchol ar fy etholwyr sy’n cael eu cyflogi yn y ganolfan o ran y costau ychwanegol sydd ynghlwm â gorfod teithio ymhellach. Mae hefyd yn codi cwestiynau am yr effaith bosibl ar nifer yr aelodau staff dwyieithog.
“Dyna pam mae fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru a minnau wedi ysgrifennu at y gwasanaeth, ac at y Gweinidog Iechyd, yn gofyn iddynt ystyried opsiynau eraill fel yr adeilad yng Nghyffordd Llandudno. Byddaf yn cyfarfod â Phrif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn fuan ac rwy’n bwriadu codi’r mater hwn.”
Mae Sophie Roberts yn gweithio yn y ganolfan yn Llanfairfechan. Yn ogystal â sgil effaith ieithyddol symud, mae'n dweud bod gan lawer o aelodau staff bryderon ymarferol am ofal plant.
“Fy mhrif bryder yw nid yn unig yr amser teithio ychwanegol i Llanelwy, ond sut y bydd symud yn effeithio ar ein cleifion Cymraeg.
“Mae nifer o'r staff sy'n siarad Cymraeg o Wynedd ac Ynys Môn, ac mae siawns dda y bydd y gwasanaeth yn colli canran uchel o'r rheiny oherwydd y pellter ychwanegol.
“Bydd cymaint o gleifion oedrannus yng nghefn gwlad Cymru yn colli'r gallu i gyfathrebu â'r gwasanaeth 999 yn eu mamiaith ac mae'n drueni.
“Bydd hefyd yn effeithio ar ofal plant i lawer o deuluoedd ifanc sy'n gweithio i'r gwasanaeth. Does dim un darparwr gofal plant yng Ngwynedd sy'n agor cyn 7:00, ac er mwyn cyrraedd Llanelwy mewn pryd i ddechrau gweithio, bydd yn rhaid i lawer ohonom adael ein cartrefi cyn 7am.
“Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar ofal plant i'r teuluoedd sy'n gweithio i'r gwasanaeth ambiwlans, ac yn y pen draw gallai arwain at lawer yn gadael y gwasanaeth a dilyn gyrfa yn nes at adref.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter