Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Siân Gwenllian AS, wedi annog Kirsty Williams a Mark Drakeford i ymddiheuro am lanast y canlyniadau Safon Uwch a berodd straen a dryswch i ddisgyblion Cymru.
Mae angen ymddiheuriad “llawn a phriodol” gan y Gweinidog Addysg a’r Prif Weinidog i bobl ifanc, meddai Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Siân Gwenllian AS.
Er i Lywodraeth Cymru gyfaddef ddoe mewn tro pedol dramatig mai graddau a aseswyd gan athrawon oedd y ffordd decaf o asesu disgyblion Safon Uwch Cymru, mae’r sefyllfa eisoes wedi cael ergyd sylweddol ar les disgyblion a rhagolygon y dyfodol.
Mewn ymateb, dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Siân Gwenllian AS,
“Mae angen i’r Gweinidog Addysg a’r Prif Weinidog roi ymddiheuriad llawn a phriodol i bobl ifanc Cymru am lanast y canlyniadau.
“Ond yn lle gwneud hynny, maen nhw'n parhau i amddiffyn system sy'n amlwg yn ddiffygiol ar draul buddiannau pobl ifanc, gan gyfaddef mai’r unig reswm dros y tro pedol oedd fod Lloegr ar fin gwneud yr un peth.
“Fodd bynnag, pe na bai Lloegr wedi newid eu meddyliau, byddai pobl ifanc Cymru yn dal i ddioddef. Os yw'r system gystal ag y maent yn honni, pam cael gwared â hi oherwydd yr hyn a wnaeth Lloegr? Os oeddech chi wir yn credu yn y system, siawns y byddech wedi parhau i’w defnyddio?
“Dylent fod wedi cyfaddef yn gynt mai defnyddio’r graddau a wobrwywyd gan athrawon oedd yr opsiwn gorau wrth symud ymlaen, ond fe adawant y penderyfniad tan y funud olaf un, ac achosodd hyn bryder a phanig munud olaf ar gyfer lleoedd prifysgol.
“Mae cymaint o gwestiynau i’w gofyn ynglŷn â sefyllfa’r wythnosau diwethaf, ac mae pobl ifanc ac athrawon yn haeddu’r atebion hyn ar frys.
“Pobl ifanc a’u dyfodol a roddwyd mewn perygl, ac ni ddylid tanseilio pwysigrwydd y mater.”
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter