Mae AS Plaid Cymru a Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Sian Gwenllian wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd pob cam i sicrhau diogelwch disgyblion ac athrawon Cymru wrth gynllunio i ailagor ysgolion Cymru.
Mae Lloegr eisoes wedi cyhoeddi ailagor ysgolion yn rhannol. Mae disgwyl i Weinidog Addysg Cymru Kirsty Williams wneud cyhoeddiad yn ddiweddarach yr wythnos yma ynglŷn â'r cynlluniau ar gyfer Cymru.
Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS, wrth gynllunio i ailagor ysgolion Cymru, y dylai iechyd a diogelwch y disgyblion ac athrawon fod yn "brif flaenoriaeth".
Dywedodd Ms Gwenllian y dylid blaenoriaethu anghenion addysgol a lles disgyblion hefyd wrth benderfynu pa grwpiau o ddisgyblion a ddylai ddychwelyd, yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar y rhieni'n dychwelyd i'r gwaith fel sy'n digwydd yn Lloegr.
Wrth i'r cyfyngiadau symud barhau yng Nghymru ac am y misoedd o'n blaenau, bydd dysgu o bell yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'r system addysg. Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid y dylid rhoi "arweiniad a chefnogaeth glir" i ysgolion ynglŷn â "disgwyliadau o ran lefelau ymgysylltiad" â disgyblion.
Dywedodd Ms Gwenllian na ddylid gadael unrhyw blentyn ar ôl.
Meddai Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS,
"Er mwyn osgoi cynnydd o ran trosglwyddo yn y gymuned, mae angen i gynlluniau i ailagor ysgolion fod mor ofalus a manwl â phosibl gan gadw iechyd a diogelwch disgyblion a staff yn brif flaenoriaeth.
"Hefyd, dylai'r cynlluniau sy'n cael eu ffurfio nawr yng Nghymru i lacio'r cyfyngiadau symud flaenoriaethu anghenion addysgol a lles disgyblion, yn hytrach na blaenoriaethu rhieni'n dychwelyd i'r gwaith fel sy'n digwydd yn Lloegr.
"Wrth i ddysgu o bell barhau i fod yn hanfodol bwysig yn ystod y cyfnod nesaf, mae angen rhoi arweiniad a chefnogaeth glir i ysgolion ynglŷn â disgwyliadau o ran lefelau ymgysylltiad â disgyblion.
"Dylai pob ysgol gadw mewn cysylltiad rheolaidd â phob plentyn. Ni ddylid gadael unrhyw blentyn ar ôl."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter