Wrth ymateb i’r cyhoeddiad na fydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams MS, yn sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf, dywedodd Siân Gwenllian AS, Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru;
“Ar ôl dau ddegawd o wasanaethu ei hetholwyr yn Aberhonddu a Sir Faesyfed gyda rhagoriaeth, rwy’n parchu penderfyniad Kirsty Williams i beidio â sefyll yn etholiadau nesaf y Senedd.
“Mae ei chyfraniad i’r Senedd wedi bod yn sylweddol, yn anad dim y gwaddol y bydd yn ei adael wrth sicrhau bod lleisiau menywod wedi cael eu clywed yn glir o’r cychwyn cyntaf, a hyn i gyd wrth fagu teulu – dipyn o gamp!
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Kirsty Williams - mae ei dycnwch a’i hangerdd dros addysg wedi sefyll allan, a diolchaf iddi am y cwrteisi a’r parodrwydd i wrando a ddangosodd i mi yn ystod ein trafodaethau ar addysg.”
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter