Gan ymateb i’r negeseuon cymysg a gyflwynodd y Prif Weinidog Llafur mewn cyfweliad ag Andrew Marr y BBC dydd Sul, dywedodd Llefarydd Addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian: “Mae yna lawer o ddryswch ynghylch pryd y bydd ysgolion yn ailagor ac fe wnaeth cyfweliad y Prif Weinidog ddoe ychwanegu at y dryswch . Mae angen eglurder ar frys - er mwyn disgyblion, rhieni a staff - ynghylch y camau y mae'n rhaid eu cymryd a'r meini prawf y mae'n rhaid eu bodloni cyn y gall ysgolion ailddechrau.
“Yn sicr ni all yr ysgolion agor nes ei bod yn ddiogel a bod system mewn lle i brofi ac olrhain y firws. Rydym yn bell o'r sefyllfa honno fel y mae pethau.
“Mae'n hanfodol ein bod ni'n magu hyder staff a disgyblion cyn bod unrhyw son o ddifrif am ysgolion yn ailagor.”
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter