Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi rhybuddio bod y sefyllfa yn Ysbyty Gwynedd “yn parhau i fod yn ddifrifol iawn”
Mae'r AS sy'n cynrychioli Arfon yn y Senedd yn ymateb i'r newyddion bod Ysbyty Gwynedd yn darparu gofal i 39 o gleifion gyda COVID-19 sy'n gysylltiedig â'r achosion yn Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd yr AS;
“Mae’r sefyllfa yn Ysbyty Gwynedd yn parhau i fod yn ddifrifol iawn ac rwy’n meddwl am yr holl deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan yr achosion a’r holl staff sy’n gwneud eu gorau glas i ddarparu’r gofal angenrheidiol o dan amgylchiadau mor heriol.
“Rwyf hefyd yn cydymdeimlo’n fawr â phawb y mae eu triniaethau neu apwyntiadau a wedi’u canslo, ac sy’n dioddef o’r herwydd.
“Mae’n galonogol cael ar ddeall bod y bwrdd iechyd yn hyderus na fydd y mesurau sydd ar waith yn peri risg sylweddol i’r cyfraddau heintio yn ein cymunedau lleol.”
Fel rhan o'i gwaith mae'r AS lleol yn cynnal cyfarfodydd rhithwir rheolaidd gyda'r bwrdd iechyd, ac mae'n annog pobl leol i gysylltu â hi trwy e-bost ([email protected]) gydag unrhyw bryderon.
“Rwy’n ceisio sicrwydd yn rheolaidd eu bod yn ymateb yn gadarn i’r heriau.
“Byddaf yn parhau i graffu ar eu gwaith mewn modd effeithiol ac os ydych yn dymuno imi godi unrhyw bryderon penodol, cysylltwch â mi.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter