Roedd hi’n ddiwrnod #LeadHerShip yr wythnos hon - achlysur wedi ei drefnu gan elusen Chwarae Teg gyda’r bwriad o dynnu sylw at yr angen i ddenu rhagor o ferched i fyd gwleidyddiaeth a hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched ar Fawrth 8fed.
Cafodd merched ifanc rhwng 16-25 o dros Gymru i gyd y cyfle i dreulio diwrnod yn y Cynulliad yn cysgodi Aelod Cynulliad er mwyn canfod sut beth ydi gwleidydda.
Dywedodd Siân Gwenllian AC “Mi ges i’r pleser o groesawu Anna Whiteside Thomas o Lanrug i nghysgodi i am y diwrnod a dwi’n gobeithio iddi fwynhau ei hun. Roeddwn i wedi cyfarfod Anna o’r blaen gan ei bod yn un o dîm peirianneg merched-i-gyd ‘Gwalch Grymus Cymru’ a ennillodd gystadleuaeth Formula 1 For Schools yn cynllunio car rasio. Mae gennym ni ferched dawnus iawn yn Arfon!”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter