Fel rhan o ddathliadau’r 45 mlwyddiant, bydd Mudiad Meithrin yn cynnal parti pen-blwydd tra gwahanol sef “Parti Pyjamas Mwyaf y Byd” ar Ddydd Mawrth, Mai 9fed gan geisio torri'r record byd o 2,004.
Meddai Dr. Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae Mudiad Meithrin yn edrych ymlaen at gynnal “Parti Pyjamas Mwyaf y Byd” fel rhan o’i ddathliadau pen-blwydd yn 45 ac yn annog pob plentyn ac oedolyn sy’n mynd i’n cylchoedd a’n meithrinfeydd i wisgo pyjamas ar Fai 9fed. Bydd hyn yn ffordd i gylchoedd godi arian gan y bydd pob plentyn yn talu £1 am wisgo pyjamas (a’r arian i’w gadw gan y cylch).”
Mae Ffatri Aykroyds, mewn cydweithrediad â’r Mudiad, wedi creu pyjamas Dewin a Doti i blant yn ogystal. Mae bron i 700 o barau o’r pyjamas arbennig wedi eu gwerthu i’r cylchoedd fel y bydd y plant yn eu gwisgo yn y parti yma ar 9 Mai os dymunant. Wrth gwrs, 'does dim rhaid cael pyjamas arbennig i gymryd rhan – mi wnaiff unrhyw byjamas y tro!
Meddai Siân Gwenllian Aelod Cynulliad Arfon,
“Rydw i wrth fy modd yn cefnogi Mudiad Meithrin yn eu hymdrech i dorri record wrth gynnal Parti Pyjamas Mwyaf y Byd heddiw, ac yn edrych ymlaen at glywed a ydynt wedi llwyddo erbyn diwedd y dydd!”
Ychwanegodd Siân Gwenllian:
“Er mai ychydig o hwyl sydd wrth wraidd y digwyddiad, dylid nodi y byddwn yn defnyddio’r parti hefyd i hyrwyddo pwysigrwydd dysgu trwy chwarae, darllen a chael noson dda o gwsg i blant bach.”
Mae croeso i unrhyw leoliad gymryd rhan ym Mharti Pyjamas Mwya’r Byd i geisio torri record y byd ar Fai 9fed. Cysyllter gyda [email protected] cyn 2.00 y pnawn ar 9 Mai i nodi faint o bobl sydd wedi cymryd rhan yn eich lleoliad. Anelir at gyhoeddi a yw’r record wedi’i thorri ai peidio am 3.00.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter